Cynnal, gwella a datblygu perthnasoedd gweithredol yn y gadwyn gyflenwi
URN: SFLSCM86
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal, gwella a datblygu perthnasoedd gweithredol yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys cynnal a gwella cydberthnasoedd presennol, ac archwilio buddion a risgiau datblygu perthnasoedd gweithredol newydd. Mae hefyd yn cynnwys nodi a datrys problemau gyda pherthnasoedd gweithredol.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adolygu a gwerthuso perthnasoedd gweithredol presennol yn y gadwyn gyflenwi
- cynnal a gwella’r perthnasoedd gweithredol presennol yn y gadwyn gyflenwi
- nodi cyfleoedd ar gyfer sefydlu perthnasoedd gweithredol newydd yn y gadwyn gyflenwi
- gwerthuso buddion a risgiau datblygu perthnasoedd gweithredol newydd yn y gadwyn gyflenwi
- datblygu perthnasoedd gweithredol newydd sydd yn cynnal ac yn gwella perfformiad y gadwyn gyflenwi
- nodi heriau gyda pherthnasoedd cadwyn gyflenwi a allai effeithio ar berfformiad y gadwyn gyflenwi
- gweithredu i ddatrys materion gyda pherthnasoedd cadwyn gyflenwi
- cadarnhau bod perthnasoedd gweithredol yn bodloni gofynion y sefydliad ar gyfer cynnal perfformiad y gadwyn gyflenwi
- asesu effaith perthnasoedd gweithredol newydd ar gynnal a gwella perfformiad y gadwyn gyflenwi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli gweithrediadau
- y perthnasoedd gweithredol presennol yn y gadwyn gyflenwi a sut i’w cynnal a’u gwella
- sut i ddatblygu perthnasoedd gweithredol newydd yn y gadwyn gyflenwi
- y dulliau cyfathrebu a sut mae perthnasoedd cadwyn gyflenwi’n cael eu rheoli yn y sefydliad
- y dulliau a’r gweithdrefnau ar gyfer adolygu a gwerthuso perthnasoedd gweithredol yn y gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau ymchwil i’r farchnad
- y rhwydweithiau, ffynonellau gwybodaeth a’r dulliau a’r gweithdrefnau rhwydweithio penodol i ddiwydiant perthnasol
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi buddion cost
- sut i asesu effaith perthnasoedd gweithredol newydd ar gynnal a gwella perfformiad y gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg
- prif heriau’r gadwyn gyflenwi a’r ffyrdd o leddfu’r heriau hyn
- y dulliau a gweithdrefnau rheoli rhanddeiliaid a ddefnyddir gan eich sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM86
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
datblygu; perthnasoedd gweithredol; cadwyn gyflenwi; cynnal; gwella