Cynllunio allforio a mewnforio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi

URN: SFLSCM85
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio allforio a mewnforio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys adolygu gofynion allforio a mewnforio presennol ac yn y dyfodol, a datrys unrhyw broblemau. Mae hefyd yn cynnwys adolygu buddion a risgiau i lywio penderfyniadau am gynllunio allforio a mewnforio nwyddau, a chael ymrwymiad rhanddeiliaid a chydweithwyr.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg nwyddau neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi’r gofynion allforio a mewnforio presennol ar gyfer nwyddau yn y gadwyn gyflenwi, i gynorthwyo gyda chynllunio
  2. adolygu’r ffordd y mae nwyddau’n cael eu hallforio a’u mewnforio ar hyn o bryd yn y gadwyn gyflenwi, i gynorthwyo gyda chynllunio 
  3. nodi gofynion allforio a mewnforio yn y dyfodol ar gyfer nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  4. cynllunio allforio a mewnforio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi 
  5. cael ymrwymiad rhanddeiliaid a chydweithwyr i weithredu’r cynllun
  6. nodi a datrys unrhyw broblemau gydag allforio a mewnforio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  7. adolygu’r buddion a’r risgiau i allforio a mewnforio nwyddau trwy’r gadwyn gyflenwi
  8. adolygu gweithredu ac effeithiolrwydd y cynllun
  9. sefydlu dulliau ar gyfer gwella allforio a mewnforio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  10. cydymffurfio â gweithdrefnau cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol wrth gynllunio allforio a mewnforio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  11. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad, a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth gynllunio allforio a mewnforio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau ein sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli’r gadwyn gyflenwi
  3. y dulliau a’r gweithdrefnau allforio a mewnforio
  4. y materion masnach ryngwladol sydd yn gysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi
  5. y gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol ar gyfer allforio a mewnforio nwyddau
  6. y damcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
  7. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda chynllunio allforio a mewnforio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  8. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol sydd ar gael i gynorthwyo gyda chynllunio allforio a mewnforio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi 
  9. y mathau gwahanol o ddulliau a gweithdrefnau ar gyfer cynllunio allforio a mewnforio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  10. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion cadwyn gyflenwi
  11. dulliau a gweithdrefnau rheoli rhanddeiliaid ar gyfer cynllunio allforio a mewnforio
  12. y gweithdrefnau cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud ag allforio a mewnforio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  13. eich cyfrifoldeb chi a’r sefydliad ar gyfer diogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth allforio a mewnforio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Rhanddeiliaid: sefydliadau neu unigolion allanol a mewnol sydd â budd yn y sefydliad

Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM85

Galwedigaethau Perthnasol

Rheoli busnes, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

cynllunio; allforio; mewnforio; nwyddau; cadwyn gyflenwi