Cynllunio cludiant nwyddau yn y gadwyn gyflenwi

URN: SFLSCM84
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio cludiant nwyddau yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys adolygu gofynion cludiant presennol ac yn y dyfodol a datrys unrhyw broblemau. Mae hefyd yn cynnwys adolygu buddion a risgiau i lywio penderfyniadau i wella cludiant.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi’r gofynion cludiant presennol ar gyfer nwyddau yn y gadwyn gyflenwi, wrth gynllunio symud nwyddau
  2. adolygu’r ffordd y mae nwyddau’n cael eu cludo ar hyn o bryd yn y gadwyn gyflenwi, i gynorthwyo’r gwaith o gynllunio symud nwyddau
  3. nodi gofynion cludiant yn y dyfodol ar gyfer nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  4. cynllunio cludiant nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  5. cael ymrwymiad rhanddeiliaid a chydweithwyr er mwyn gweithredu’r cynllun
  6. nodi a datrys unrhyw broblemau yn cludo nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  7. adolygu buddion a risgiau cludiant nwyddau trwy’r gadwyn gyflenwi
  8. adolygu gweithrediad ac effeithiolrwydd y cynllun 
  9. cynllunio sefydlu unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch ar gyfer y nwyddau gofynnol yn y gadwyn gyflenwi
  10. sefydlu dulliau i wella cludiant nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  11. cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol, wrth gynllunio cludiant nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  12. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad, a chyfathrebu a gweithredu’r rhain wrth gynllunio cludiant nwyddau yn y gadwyn gyflenwi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli y gadwyn gyflenwi
  3. y dulliau a’r gweithdrefnau cludiant ar gyfer nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  4. y gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol ar gyfer cludiant nwyddau
  5. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
  6. y damcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
  7. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda chynllunio cludiant nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  8. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol sydd ar gael i gynorthwyo gyda chynllunio cludiant nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  9. y mathau gwahanol o ddulliau a gweithdrefnau ar gyfer cynllunio cludiant nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  10. sut i nodi a datrys unrhyw broblemau gyda chludiant nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  11. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion cadwyn gyflenwi
  12. y dulliau a’r gweithdrefnau rheoli rhanddeiliaid ar gyfer cynllunio cludiant nwyddau
  13. y gweithdrefnau cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â chludiant nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
  14. sut i gynllunio’r mesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd yn angenrheidiol gan y nwyddau sydd yn cael eu cludo
  15. eich cyfrifoldeb chi a’r sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth gludo nwyddau yn y gadwyn gyflenwi


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Rhanddeiliaid: sefydliadau mewnol ac allanol neu unigolion sydd â budd yn y sefydliad

Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth, a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Cludiant: symud nwyddau neu adnoddau, yn fewnol neu’n allanol, o fewn eich sefydliad eich hun, yn genedlaethol neu rhwng ffiniau rhyngwladol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM84

Galwedigaethau Perthnasol

Rheoli busnes, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

cynllunio; cludiant; nwyddau; cadwyn gyflenwi