Cynllunio dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
URN: SFLSCM83
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys adolygu gofynion dosbarthu presennol ac yn y dyfodol a datrys unrhyw broblemau. Mae hefyd yn cynnwys adolygu buddion a risgiau dosbarthu er mwyn llywio’r broses gynllunio.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr y gadwyn gyflenwi. Gallai hyn, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg nwyddau neu reoli cludiant.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi gofynion dosbarthu presennol nwyddau yn y gadwyn gyflenwi wrth gynllunio i ddyrannu nwyddau
- adolygu’r ffordd y caiff nwyddau presennol eu dosbarthu yn y gadwyn gyflenwi, i gynorthwyo gyda chynllunio i ddyrannu nwyddau
- nodi gofynion dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi yn y dyfodol
- cynllunio dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- cael ymrwymiad rhanddeiliaid a chydweithwyr er mwyn gweithredu’r cynllun
- nodi a datrys unrhyw broblemau wrth ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- adolygu’r buddion a’r risgiau i ddosbarthu nwyddau trwy’r gadwyn gyflenwi
- adolygu gweithrediad ac effeithiolrwydd y cynllun
- cynllunio’r gwaith o sefydlu unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch ar gyfer y nwyddau angenrheidiol yn y gadwyn gyflenwi
- sefydlu dulliau ar gyfer gwella dosbarthiad nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch perthnasol wrth gynllunio i ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a cynaliadwyedd yn y sefydliad, a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth gynllunio i ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli’r gadwyn gyflenwi
- y dulliau a’r gweithdrefnau dosbarthu ar gyfer nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- y gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol ar gyfer dosbarthu nwyddau
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
- damcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda chynllunio i ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol sydd ar gael i gynorthwyo gyda chynllunio’r gwaith o ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- y mathau gwahanol o ddulliau a gweithdrefnau ar gyfer cynllunio i ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion cadwyn gyflenwi
- dulliau a gweithdrefnau rheoli rhanddeiliaid ar gyfer cynllunio dosbarthu
- y gweithdrefnau cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- sut i gynllunio’r mesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd eu hangen gan y nwyddau sydd yn cael eu dosbarthu yn y gadwyn gyflenwi
- eich cyfrifoldeb chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth ddosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Rhanddeiliaid: sefydliadau neu unigolion mewnol ac allanol sydd â budd yn y sefydliad
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth, a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM83
Galwedigaethau Perthnasol
Rheoli busnes, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
cynllunio; dosbarthu; nwyddau; cadwyn gyflenwi