Cynllunio storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
URN: SFLSCM82
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys nodi gofynion, adolygu’r ffordd y caiff nwyddau eu storio a datrys problemau. Mae hefyd yn cynnwys adolygu buddion, dewis a chynllunio dulliau ar gyfer gwella storio, a chael ymrwymiad gan randdeiliaid a chydweithwyr.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adolygu’r gofynion storio presennol a’r risgiau o ran storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi, i gynorthwyo gyda chynllunio
- nodi gofynion storio yn y dyfodol ar gyfer nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- cael ymrwymiad rhanddeiliaid a chydweithwyr i weithredu’r cynllun
- nodi a datrys unrhyw broblemau yn storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- adolygu’r buddion a’r risgiau i storio nwyddau ar draws y gadwyn gyflenwi
- cynllunio ar gyfer sefydlu unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch ar gyfer y nwyddau angenrheidiol sydd yn cael eu storio
- sefydlu dulliau ar gyfer gwella storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol wrth gynllunio ar gyfer storio nwyddau y y gadwyn gyflenwi
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad, a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth gynllunio ar gyfer storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
- y mathau o ddulliau a gofynion storio yn y gadwyn gyflenwi
- y gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol ar gyfer storio nwyddau
- damcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda chynllunio a storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol sydd ar gael i gynorthwyo gyda chynllunio ar gyfer storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- y dulliau a’r gweithdrefnau ar gyfer cynllunio ar gyfer storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion yn y gadwyn gyflenwi
- dulliau a gweithdrefnau rheoli rhanddeiliaid i’w defnyddio i gynllunio a storio nwyddau
- y gweithdrefnau cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â storio nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- sut i gynllunio’r mesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd yn angenrheidiol ar gyfer y nwyddau sydd yn cael eu storio
- eich cyfrifoldeb chi a’r sefydliad am ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth weithio gyda nwyddau sydd yn cael eu storio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Rhanddeiliaid: sefydliadau neu unigolion mewnol ac allanol sydd â budd yn y sefydliad
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth, a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM82
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
cynllun; storio; cyflenwadau; cadwyn gyflenwi