Cynllunio caffael cyflenwadau yn y gadwyn gyflenwi
URN: SFLSCM81
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio caffael cyflenwadau yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys nodi ac adolygu dulliau presennol a datrys problemau. Mae hefyd yn cynnwys adolygu buddion a risgiau, dethol a chynllunio dulliau ar gyfer gwella caffaeliad a chael ymrwymiad i’r cynllun gan randdeiliaid a chydweithwyr.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi’r galw presennol am gyflenwadau yn y gadwyn gyflenwi er mwyn cynllunio eu caffaeliad
- adolygu’r ffordd y caiff cyflenwadau presennol eu caffael yn y gadwyn gyflenwi
- nodi a datrys unrhyw faterion yn caffael cyflenwadau yn y gadwyn gyflenwi
- adolygu’r buddion a’r risgiau i gaffael cyflenwadau yn y gadwyn gyflenwi wrth gynllunio
- sefydlu dulliau i wella caffaeliad cyflenwadau yn y gadwyn gyflenwi
- datblygu a sefydlu cynllun ar gyfer caffael cyflenwadau yn y gadwyn gyflenwi
- cael ymrwymiad rhanddeiliaid a chydweithwyr i weithredu’r cynllun
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli’r gadwyn gyflenwi
- y damcaniaethau, modelau a’r arferion caffael
- y rhwydweithiau sy’n benodol i’r diwydiant a’r ffynonellau gwybodaeth perthnasol
- y gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol
- damcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
- y dulliau a’r gweithdrefnau dadansoddi risg a ddefnyddir gan eich sefydliad i gynorthwyo gyda chynllunio a chaffael cyflenwadau
- y dulliau a’r gweithdrefnau dadansoddi buddiannau cost a ddefnyddir gan eich sefydliad, i gynorthwyo’r gwaith o gynllunio a chaffael cyflenwadau
- y dulliau a’r gweithdrefnau dadansoddi ariannol a ddefnyddir gan eich sefydliad, i gynorthwyo gyda’r gwaith o gynllunio a chaffael cyflenwadau
- y dulliau a’r gweithdrefnau cynllunio a ddefnyddir gan eich sefydliad
- dulliau a gweithdrefnau rheoli rhanddeiliaid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Rhanddeiliaid: pob sefydliad neu unigolyn sydd â budd yn y sefydliad
Cyflenwadau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth, a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM81
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
cynllunio; caffaeliad; cyflenwadau