Cynllunio llif cyflenwadau trwy’r gadwyn gyflenwi
URN: SFLSCM80
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio llif cyflenwadau trwy’r gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys adolygu llif presennol y cyflenwad, gan ddatrys unrhyw broblemau ac adolygu’r buddion a’r risgiau. Mae hefyd yn cynnwys dewis a chynllunio dulliau o wella llif cyflenwadau, a chael ymrwymiad i’r cynllun gan randdeiliaid a chydweithwyr.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi’r galw presennol am gyflenwadau yn y gadwyn gyflenwi
- adolygu’r ffordd y mae cyflenwadau presennol yn llifo trwy’r gadwyn gyflenwi
- nodi a datrys unrhyw broblemau gyda llif cyflenwadau trwy’r gadwyn gyflenwi
- adolygu buddion a risgiau i lif cyflenwadau trwy’r gadwyn gyflenwi
- sefydlu dulliau ar gyfer gwella llif cyflenwadau trwy’r gadwyn gyflenwi
- cynllunio llif cyflenwadau trwy’r gadwyn gyflenwi
- cael ymrwymiad rhanddeiliaid a chydweithwyr i weithredu’r cynllun
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli’r gadwyn gyflenwi
- damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli gweithrediadau
- damcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
- dulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg
- dulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol
- dulliau a gweithdrefnau ar gyfer cynllunio llif cyflenwadau trwy’r gadwyn gyflenwi
- damcaniaethau, modelau ac arferion cyflwyno
- dulliau a gweithdrefnau rheoli rhanddeiliaid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Rhanddeiliaid: pob sefydliad neu unigolyn sydd â budd yn y gadwyn gyflenwi
Cyflenwadau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth, a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
28 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM80
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
cynllunio; symud; cyflenwadau; cadwyn gyflenwi