Sefydlu a monitro prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
URN: SFLSCM79
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sefydlu a monitro prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys penderfynu ar nodau ac amcanion y prosiect a’r ffyrdd y bydd y prosiect yn cael ei reoli. Bydd hefyd yn cynnwys costio’r prosiect, cefnogi cydweithwyr, monitro cyflawniadau a datrys rhwystrau rhag cyflawni.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- ymchwilio i brosiectau posibl i gyflwyno newidiadau a gwelliannau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- cytuno ar nodau ac amcanion y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- sefydlu’r ffordd y dylai’r prosiect gael ei reoli
- sefydlu costau cynnal y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- comisiynu’r prosiect yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- sefydlu rheolwr prosiect
- cynorthwyo cydweithwyr i gyflawni nodau ac amcanion y prosiect
- monitro cyflawniadau nodau ac amcanion y prosiect
- nodi a monitro unrhyw heriau yn cyflawni nodau ac amcanion y prosiect
- datrys unrhyw rwystrau yn cyflawni nodau ac amcanion y prosiect
- cyflwyno adroddiadau ar ganlyniadau’r prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- cadarnhau bod y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu’r ffactorau hyn wrth sefydlu a monitro’r prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- sut i sefydlu nodau ac amcanion y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol ar gyfer sefydlu costau ar gyfer prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau cynllunio ar gyfer prosiectau
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau rheoli risg
- sut i nodi a monitro unrhyw heriau yn cyflawni nodau ac amcanion y prosiect
- sut i ddatrys unrhyw rwystrau yn cyflawni nodau ac amcanion y prosiect
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer comisiynu prosiectau
- y dulliau o fonitro cyflawni nodau ac amcanion y prosiect
- dulliau cyflwyno ac adrodd y sefydliad ar gyfer cofnodi canlyniadau’r prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sydd eu hangen ar gyfer sefydlu a monitro prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- eich cyfrifoldeb chi ac un y sefydliad ar gyfer diogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth sefydlu a monitro prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth, a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Prosiect: gweithgaredd wedi ei gynllunio, gydag amcanion, llinell amser ac adnoddau y cytunwyd arnynt, gyda’r bwriad o gyflawni canlyniad y cytunwyd arno
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM79
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
comisiynu; prosiectau; datblygu; cadwyn gyflenwi