Gwella perfformiad y gadwyn gyflenwi
URN: SFLSCM78
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gwella perfformiad y gadwyn gyflenwi. Mae’n ymwneud ag adolygu perfformiad presennol i nodi gwelliannau a phenderfynu ar ffyrdd o’u cyflwyno. Mae’n cynnwys adolygu canlyniadau gwelliannau a datrys unrhyw broblemau cysylltiedig.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adolygu perfformiad presennol y gadwyn gyflenwi
- nodi gwelliannau i berfformiad y gadwyn gyflenwi
- cytuno ar ddulliau i wella perfformiad y gadwyn gyflenwi
- cael ymrwymiad rhanddeiliaid a chydweithwyr er mwyn gweithredu gwelliannau
- cyflwyno gwelliannau i berfformiad y gadwyn gyflenwi
- adolygu effeithiau cyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
- nodi a datrys unrhyw faterion yn ymwneud â chyflwyno gwelliannau
- cadarnhau bod gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi yn cydymffurfio â’r holl ofynion cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu’r ffactorau hyn wrth gyflwyno gwelliannau i berfformiad y gadwyn gyflenwi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli ansawdd a ddefnyddir i wella perfformiad y gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli newid a ddefnyddir i wella perfformiad y gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi buddiannau cost
- y gweithdrefnau sefydliadol i wella perfformiad y gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau cynllunio a ddefnyddir i wella perfformiad y gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan y sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau rheoli rhanddeiliaid a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sydd eu hangen ar gyfer monitro dosbarthu nwyddau
- eich cyfrifoldebau chi a rhai’r sefydliad ar gyfer diogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy, wrth amserlennu dosbarthu nwyddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Rhanddeiliaid: pob sefydliad neu unigolyn sydd â budd yn y sefydliad
Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth, a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM78
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
gwella; perfformiad; cadwyn gyflenwi