Datblygu a gweithredu strategaeth cadwyn gyflenwi ar gyfer y sefydliad
URN: SFLSCM76
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu a gweithredu strategaeth cadwyn gyflenwi ar gyfer y sefydliad. Mae’n cynnwys nodi amcanion ac adolygu’r gadwyn gyflenwi a’r holl ffactorau sy’n berthnasol i’r strategaeth. Mae’n cynnwys nodi rhwystrau, cael ymrwymiad y rhanddeiliaid, a defnyddio dulliau cyfathrebu priodol.
Mae cyflenwadau’n unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau amcanion y sefydliad a’i strategaethau ar gyfer eu cyflawni
- adolygu strategaeth bresennol y gadwyn gyflenwi a sut mae’n helpu i gyflawni amcanion y sefydliad
- adolygu’r holl ffactorau sy’n berthnasol i ddatblygu strategaeth y gadwyn gyflenwi
- nodi cyfleoedd fydd yn ychwanegu gwerth i’r sefydliad
- gweithredu strategaeth cadwyn gyflenwi fydd yn galluogi’r sefydliad i fod yn fwy effeithiol yn cyflawni ei amcanion
- nodi rhwystrau i ddatblygiad strategaeth y gadwyn gyflenwi ac archwilio dulliau ar gyfer eu goresgyn
- darparu rhesymeg dros strategaeth y gadwyn gyflenwi
- cael ymrwymiad rhanddeiliaid a chydweithwyr i weithredu strategaeth y gadwyn gyflenwi
- darparu gwybodaeth i’r sefydliad ar strategaeth y gadwyn gyflenwi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- y gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol ar gyfer rheoli cadwyn gyflenwi
- sut i ddatblygu a gweithredu strategaeth cadwyn gyflenwi ar gyfer eich sefydliad
- pam y mae’n bwysig cymharu gallu cyflenwyr lleol, rhanbarthol a byd-eang
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli ansawdd
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli newid
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi buddiannau cost
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg
- prif heriau cadwyni cyflenwi a’r ffyrdd o leddfu’r heriau hyn
- mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion cadwyn gyflenwi
- dulliau a gweithdrefnau rheoli rhanddeiliaid a ddefnyddir gan eich sefydliad
- sut i gael ymrwymiad gan randdeiliaid a chydweithwyr i weithredu strategaeth cadwyn gyflenwi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Rhanddeiliaid: pob sefydliad neu unigolyn sydd â budd yn llwyddiant y sefydliad
Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Strategaeth cadwyn gyflenwi: dylunio a chynllunio’r gadwyn “o’r dechrau i’r diwedd” i gynyddu’r potensial o fodloni galw gan gwsmeriaid ar y gost isaf posibl
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM76
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Storio a Manwerthu, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
datblygu; cadwyn gyflenwi; strategaeth