Monitro cludo nwyddau
URN: SFLSCM132
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Logisteg,Rheoli Cadwyn Gyflenwi,Masnach ryngwladol a Gweithrediadau Logisteg
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2022                        
                    
                Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro cludo nwyddau. Mae’n cynnwys cydgrynhoi a dadansoddi gwybodaeth yn ymwneud â chludo nwyddau. Mae hefyd yn cynnwys nodi problemau, rhoi canlyniadau dadansoddiadau, a gwneud argymhellion yn ymwneud â chludo nwyddau.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- monitro cludo nwyddau gan ddefnyddio’r systemau neu’r dyfeisiadau olrhain perthnasol a ddefnyddir gan y sefydliad
- cyfathrebu gyda chydweithwyr yn y gadwyn gyflenwi trwy gydol y broses fonitro
- cael y wybodaeth berthnasol am gludo nwyddau er mwyn monitro eu cynnydd
- cydgrynhoi a pharatoi gwybodaeth am gludo nwyddau ar gyfer dadansoddi
- dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth am gludo nwyddau
- nodi ac ymdrin â phroblemau yn cludo nwyddau
- rhoi canfyddiadau eich monitro i gydweithwyr a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliant
- cydymffurfio â gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol ar gyfer cludo nwyddau
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd o fewn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth amserlennu dosbarthu nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau cludo a ddefnyddir gan eich sefydliad
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad sy’n berthnasol i’r nwyddau sy’n cael eu cludo a phrosesau cadwyn gyflenwi
- sut i fonitro cludo nwyddau gan ddefnyddio systemau tracio ac olrhain
- sut i gydgrynhoi a pharatoi data am fonitro nwyddau sydd yn cael eu cludo
- sut i ddadansoddi gwybodaeth am gludo nwyddau
- y dulliau a’r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer gwerthuso gwybodaeth am gludo nwyddau
- y mathau o broblemau a all ddigwydd wrth gludo nwyddau a sut i ymdrin â’r rhain
- y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
- sut i gyflwyno canlyniadau monitro i gydweithwyr
- y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sydd yn angenrheidiol ar gyfer cludo nwyddau
- eich cyfrifoldebau chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth amserlennu dosbarthu nwyddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr a rhanddeiliaid: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, cwsmeriaid  
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi  
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Cludiant: symud nwyddau neu adnoddau yn fewnol neu’n allanol o fewn y sefydliad, yn genedlaethol neu rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Lantra
        
    
URN gwreiddiol
        SFLSCM132
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth        
    
Cod SOC
        1243
        
    
Geiriau Allweddol
            monitro; cludiant; nwyddau; cadwyn gyflenwi