Monitro llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
URN: SFLSCM131
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd. Mae’n cynnwys cydgrynhoi a dadansoddi gwybodaeth yn ymwneud â llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd. Mae hefyd yn cynnwys nodi problemau, rhoi canlyniadau’r dadansoddiadau, a gwneud argymhellion am lif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol am y nwyddau sydd yn cael eu dychwelyd er mwyn monitro eu cynnydd
- cyfathrebu gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol trwy gydol y broses fonitro
- cydgrynhoi a pharatoi gwybodaeth am lif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd ar gyfer dadansoddi
- dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth am lif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
- nodi ac ymdrin â phroblemau gyda llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
- rhoi canlyniadau’r monitro i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
- argymell opsiynau ar gyfer gwella llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
- cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sydd yn angenrheidiol ar gyfer monitro llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd o fewn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth amserlennu dosbarthu nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â dychwelyd nwyddau
- y math o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi a monitro llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
- sut i fonitro llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
- sut i gael a dadansoddi gwybodaeth am lif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
- y dulliau a’r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer gwerthuso gwybodaeth am lif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
- prosesau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer dychwelyd nwyddau
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
- sut i nodi ac ymdrin ag unrhyw broblemau sydd yn gallu digwydd gyda llif nwyddau sy’n cael eu dychwelyd
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion cadwyn gyflenwi
- y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
- y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sydd yn angenrheidiol ar gyfer monitro dosbarthu nwyddau
- eich cyfrifoldebau chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth amserlennu dosbarthu nwyddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, cwsmeriaid
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM131
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
monitro; nwyddau sy’n cael eu dychwelyd; cadwyn gyflenwi