Monitro dosbarthu nwyddau
URN: SFLSCM130
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro dosbarthu nwyddau. Mae’n cynnwys cael gwybodaeth yn ymwneud â gofynion dosbarthu. Mae hefyd yn cynnwys dadansoddi gwybodaeth, nodi problemau a rhoi canlyniadau’r dadansoddi gydag argymhellion yn ymwneud â gofynion dosbarthu.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflewi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- monitro dosbarthu nwyddau yn y gadwyn gyflenwi
- cyfathrebu gyda chydweithwyr yn y gadwyn gyflenwi trwy gydol y broses fonitro
- cael y wybodaeth berthnasol am ddosbarthu nwyddau er mwyn monitro eu cynnydd
- cydgrynhoi a pharatoi gwybodaeth am ddosbarthu nwyddau ar gyfer ei dadansoddi
- dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth am ddosbarthu nwyddau
- nodi ac ymdrin â phroblemau gyda dosbarthu nwyddau
- rhoi canlyniadau’r monitro i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau
- cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sydd yn angenrheidiol ar gyfer dosbarthu nwyddau
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd o fewn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth amserlennu dosbarthu nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn pethynas â dosbarthu nwyddau
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi a monitro dosbarthu nwyddau
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
- sut i fonitro dosbarthu nwyddau
- sut i gael a dadansoddi gwybodaeth am ddosbarthu nwyddau
- y dulliau a’r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer gwerthuso gwybodaeth am ddosbarthu nwyddau
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
- sut i nodi ac ymdrin ag unrhyw faterion sydd yn gallu digwydd wrth ddosbarthu nwyddau
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion cadwyn gyflenwi
- y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
- y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol ar gyfer monitro dosbarthu nwyddau
- eich cyfrifoldebau chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth amserlennu dosbarthu nwyddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, cwsmeriaid
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM130
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
dosbarthu; monitro; nwyddau; trafnidiaeth; cadwyn gyflenwi