Gwneud a chadarnhau archebion gyda chyflenwyr

URN: SFLSCM125
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod a chadarnhau archebion gyda chyflenwyr. Mae'n cynnwys cael gwybodaeth am y cyflenwadau sydd angen eu harchebu a chadarnhau manylebau gyda chydweithwyr. Mae hefyd yn cynnwys nodi ac ymdrin â phroblemau a chydweithredu â gweithdrefnau.

* *

Mae'r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallai hyn fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg llwythi neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael gwybodaeth am y cyflenwadau y mae angen eu harchebu
  2. cadarnhau'r manylebau ar gyfer yr archebion gyda chydweithwyr
  3. gwneud archebion gyda chyflenwyr yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  4. cadarnhau archebion gyda chyflenwyr
  5. nodi a gweithredu i ymdrin â phroblemau wrth wneud archebion
  6. cydymffurfio â gweithdrefnau perthnasol, cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol ar gyfer gwneud archebion

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â gwneud a chadarnhau archebion gyda chyflenwyr
  2. damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  3. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi
  4. sut i wneud a chadarnhau archebion gyda chyflenwyr yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  5. y mathau o ddogfennau a ddefnyddir gan eich sefydliad ar gyfer cadarnhau ac archebu cyflenwadau
  6. damcaniaethau, modelau ac arferion caffael
  7. dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth, a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Cyflenwadau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sy'n cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi


Manylebau: set o ofynion i gael eu bodloni gan wasanaeth neu gynnyrch materol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLSCM125

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiol Trafnidiaeth, Manwerthu a chyfanwerthu

Cod SOC

1162

Geiriau Allweddol

archebion; cyflenwyr; cadwyn gyflenwi