Cwblhau gweithdrefnau a gofynion mewnforio
URN: SFLSCM119
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chwblhau gweithdrefnau a gofynion mewnforio. Mae’n cynnwys nodi gofynion, cael gwybodaeth a chwblhau dogfennau mewnforio. Mae hefyd yn cynnwys monitro a chydymffurfio â gweithdrefnau mewnforio, nodi problemau a darparu gwybodaeth.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi’r gofynion mewnforio ar gyfer nwyddau
- cael gwybodaeth am fewnforio nwyddau
- cwblhau dogfennau mewnforio ar gyfer nwyddau
- monitro’r gwaith o gwblhau gweithdrefnau a gofynion mewnforio
- nodi ac ymdrin â materion yn gysylltiedig â’r gweithdrefnau a’r gofynion mewnforio
- rhoi gwybodaeth am fewnforio nwyddau i gydweithwyr a phartïon eraill â diddordeb
- cydymffurfio â’r gweithdrefnau a’r gofynion cyfreithiol, rheoliadol, amghylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol mewnforio perthnasol
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd o fewn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth gwblhau gweithdrefnau mewnforio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gwethgareddau eich sefydliad mewn perthynas â gweithdrefnau a gofynion mewnforio
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau a gweithdrefnau cadwyn gyflenwi ar gyfer mewnforio nwyddau
- sut i gwblhau gweithdrefnau a gofynion mewnforio
- gweithdrefnau a gofynion mewnforio eich sefydliad
- y mathau o ddogfennau mewnforio a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y gofynion cyfreithiol, rheoliadol, amgycheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol ar gyfer mewnforio nwyddau
- eich cyfrifoldebau chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth fewnforio nwyddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM119
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
mewnforio; gweithdrefnau; gofynion; cadwyn gyflenwi