Monitro nwyddau mewn lleoliadau a chyfleusterau storio
URN: SFLSCM117
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro nwyddau mewn lleoliadau a chyfleusterau storio. Mae’n cynnwys cydgrynhoi gwybodaeth yn ymwneud â’r nwyddau sydd yn cael eu storio. Mae hefyd yn cynnwys monitro’r lleoliad a chyflwr y nwyddau, nodi a datrys problemau, a chreu argymhellion yn ymwneud â rheoli nwyddau.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- monitro lleoliad, cyfleusterau a chyflwr y nwyddau sydd yn cael eu storio
- cael y wybodaeth berthnasol am y nwyddau sydd yn cael eu storio
- nodi a chasglu gwybodaeth am y lleoliadau a’r cyfleusterau storio ar gyfer cydgrynhoi
- gwerthuso gwybodaeth am y lleoliadau a’r cyfleusterau storio
- cadarnhau bod nwyddau’n cael eu storio yn unol â gofynion sefydliadol, cyfreithiol a rhanddeiliaid
- asesu’r holl ffactorau a’r risgiau perthnasol wrth storio nwyddau, yn cynnwys iechyd a diogelwch, diogeledd a bioddiogelwch
- nodi ac ymdrin â phroblemau gyda storio nwyddau, yn cynnwys iechyd a diogelwch
- rhoi canfyddiadau i gydweithwyr o’r broses fonitro a gwneud argymhellion
- cyfathrebu a rhoi gwybodaeth i gydweithwyr yn y gadwyn gyflenwi trwy gydol y broses fonitro
- cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol ar gyfer storio cyflenwadau mewn lleoliadau a chyfleusterau storio
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd o fewn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth ddewis lleoliadau, cyfleusterau ac adnoddau storio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â rheoli nwyddau mewn lleoliadau a chyfleusterau storio
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi, a sut i fonitro nwyddau mewn lleoliadau a chyfleusterau storio
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
- sut i fonitro nwyddau mewn lleoliadau a chyfleusterau storio
- sut i gael a gwerthuso gwybodaeth am storio nwyddau mewn lleoliadau a chyfleusterau storio
- y dulliau a’r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer gwerthuso gwybodaeth am storio nwyddau
- y damcaniaethau, y modelau a’r arferion mesur perfformiad a ddefnyddir gan eich sefydliad i gynorthwyo’r gwaith o fonitro nwyddau mewn lleoliadau a chyfleusterau storio
- y mathau o faterion sydd yn gallu digwydd wrth storio nwyddau a sut i ymdrin â’r rhain
- y dulliau cyfathrebu a’r systemau TG a ddefnyddir gan eich sefydliad i gyfathrebu canfyddiadau ac argymhellion i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
- y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol ar gyfer storio nwyddau mewn lleoliadau a chyfleusterau storio
- eich cyfrifoldeb chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth storio nwyddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Lleoliadau a chyfleusterau storio: dros dro neu barhaol, amgylchol, wedi eu hoeri, sych, awyr agored, dan do, wedi eu hawyru, ar wahân, mynediad cyfyngedig
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM117
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
243
Geiriau Allweddol
cyflenwadau; storio; lleoliadau; cyfleusterau; cadwyn gyflenwi