Monitro cyflawni tasgau prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
URN: SFLSCM116
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro cyflawni tasgau prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys gwirio tasgau’r prosiect yn erbyn gwybodaeth, darparu gwybodaeth a nodi problemau yn cyflwyno prosiectau.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gwybodaeth am ofynion y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- cadarnhau tasgau’r prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- cael gwybodaeth gan gydweithwyr am gyflawni tasgau’r prosiect
- monitro cyflawni tasgau’r prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- cydgrynhoi a gwerthuso’r wybodaeth a gasglwyd wrth fonitro cyflawni tasgau’r prosiect
- rhoi gwybodaeth i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol ar gynnydd tasgau’r prosiect
- defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd wrth fonitro cyflawni tasgau’r prosiect i nodi unrhyw broblemau’n cwblhau’r prosiect
- gweithredu i fynd i’r afael â phroblemau’n cwblhau tasgau’r prosiect
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â chyflawni tasgau prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi
- sut i fonitro cyflawni tasgau prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o brosesau a thasgau prosiect a wneir gan eich sefydliad i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau rheoli a gweinyddu prosiect a ddefnyddir gan eich sefydliad i gynorthwyo’r gwaith o fonitro tasgau prosiect
- sut i gydgrynhoi, gwerthuso a chyflwyno’r canfyddiadau a gesglir wrth fonitro tasgau prosiect
- y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
- y mathau o faterion a allai rwystro tasgau prosiect rhag cael eu cwblhau a’r camau i’w cymryd i ddatrys y problemau hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, mewnol ac allanol
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Prosiect: gweithgaredd wedi ei gynllunio, gydag amcanion, llinell amser ac adnoddau y cytunwyd arnynt sydd â’r bwriad o gyflawni canlyniad y cytunir arno
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM116
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
monitro; cyflawniad; prosiect; tasgau; cadwyn gyflenwi