Cyflwyno a monitro gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
URN: SFLSCM115
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyflwyno a monitro gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys cael gwybodaeth a chyflwyno gwelliannau yn unol â chynllun, polisïau a gweithdrefnau gweithredu eich sefydliad. Mae hefyd yn cynnwys cydgrynhoi a dadansoddi data, nodi problemau a rhoi adborth.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gwybodaeth am gyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
- cyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi i fodloni gofynion y cynllun gweithredu
- cydymffurfio â gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer monitro cyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
- monitro’r effaith y mae cyflwyno gwelliannau’n ei gael ar y gadwyn gyflenwi
- cydgrynhoi a pharatoi data ar effaith cyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
- dadansoddi data ar effaith gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
- rhoi adborth i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol ar gyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
- cadarnhau bod cyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi yn cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd o fewn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth gyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am y gadwyn gyflenwi
- sut i gyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi o fewn eich maes cyfrifoldeb
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli newid a ddefnyddir i gyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau cynllunio ar gyfer rheoli cadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli ansawdd
- sut i fonitro cyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
- y dulliau a ddefnyddir gan eich sefydliad ar gyfer casglu a dadansoddi data am effeith cyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
- y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi
- eich cyfrifoldebau chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth gyflwyno gwelliannau i’r gadwyn gyflenwi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM115
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
gwella; gwelliannau; cadwyn gyflenwi