Amserlennu cludo nwyddau
URN: SFLSCM110
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag amserlennu cludo nwyddau. Mae’n cynnwys cael a gwerthuso gwybodaeth mewn perthynas â’r nwyddau sydd yn cael eu cludo. Mae hefyd yn cynnwys amserlennu cludiant i fodloni gofynion, asesu ffactorau a risgiau, ymdrin â phroblemau a rhoi canlyniadau gwerthusiadau sydd yn cydymffurfio â gofynion.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau’r nwyddau sydd yn cael eu hamserlennu i gael eu cludo
- cael gwybodaeth am y nwyddau y mae angen eu cludo
- amserlennu cludo nwyddau i fodloni gofynion y gadwyn gyflenwi
- cadarnhau yr amserlen cludo nwyddau gyda chydweithwyr
- nodi ac adolygu’r ffactorau a’r risgiau perthnasol a allai effeithio ar yr amserlen gludo
- nodi ac ymdrin â phroblemau gyda’r amserlen gludo
- nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch ar gyfer y nwyddau sydd yn cael eu cludo
- hysbysu’r holl gydweithwyr a’r rhanddeiliaid allweddol perthnasol am yr amserlen
- cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sy’n ofynnol ar gyfer amserlennu cludo nwyddau
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth amserlennu dosbarthu nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â chludo nwyddau
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi ac amserlennu a dosbarthu nwyddau
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau cludo
- y dulliau a ddefnyddir i amserlennu cludo nwyddau
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau cynllunio ar gyfer cludo nwyddau
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gydag amserlennu cludo nwyddau
- y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
- sut i nodi ac ymdrin ag unrhyw broblemau gydag amserlennu cludo nwyddau
- y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud ag amserlennu dosbarthu nwyddau
- sut i nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd eu hangen gan y nwyddau sydd yn cael eu dosbarthu
- eich cyfrifoldebau chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth amserlennu dosbarthu nwyddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, cwsmeriaid
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Trafnidiaeth: symud nwyddau neu adnoddau yn fewnol neu’n allanol o fewn y sefydliad, yn genedlaethol neu rhwng ffiniau rhyngwladol
Amserlen: cynllun neu amserlen o gyfres o ddigwyddiadau neu weithgareddau
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM110
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
amserlen; cludo; nwyddau; cadwyn gyflenwi