Dewis dulliau dychwelyd cyflenwadau
URN: SFLSCM108
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis dulliau dychwelyd cyflenwadau. Mae’n cynnwys cael a gwerthuso gwybodaeth yn ymwneud â’r nwyddau sydd yn cael eu dychwelyd a’r dulliau sydd ar gael ar gyfer derbyn nwyddau sydd wedi eu dychwelyd. Mae hefyd yn cynnwys nodi dulliau i fodloni manylebau, asesu buddion a risgiau, datrys problemau a rhoi canlyniadau gwerthusiadau sydd yn cydymffurfio â gofynion sefydliadol.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu rolau rheoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau’r wybodaeth am y nwyddau sydd yn cael eu dychwelyd
- cael gwybodaeth am y dulliau dychwelyd cyflenwadau sydd ar gael
- gwerthuso gwybodaeth am addasrwydd dulliau dychwelyd cyflenwadau
- nodi’r dulliau dychwelyd cyflenwadau sydd yn bodloni manylebau’r nwyddau, y rhanddeiliaid allweddol ac unrhyw ofynion eraill
- asesu buddion a risgiau defnyddio dulliau dychwelyd cyflenwadau
- nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch ar gyfer y nwyddau sydd yn cael eu dychwelyd
- nodi ac ymdrin â materion yn ymwneud â’r dulliau dychwelyd cyflenwadau
- cyfathrebu’r dulliau dychwelyd cyflenwadau i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
- cydymffurfio â’r holl weithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol sydd yn angenrheidiol ar gyfer y dull dychwelyd cyflenwadau a ddewisir
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth ddewis dulliau dychwelyd cyflenwadau ar gyfer nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am ddulliau dychwelyd cyflenwadau
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
- y dulliau a’r gweithdrefnau gwerthuso perthnasol ar gyfer dewis dulliau dychwelyd cyflenwadau
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda dewis dulliau dychwelyd cyflenwadau
- sut i nodi ac ymdrin ag unrhyw faterion wrth ddewis dulliau dychwelyd cyflenwadau
- y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â dewis dulliau dychwelyd cyflenwadau
- sut i nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd yn angenrheidiol gan y nwyddau sydd yn cael eu dosbarthu
- eich cyfrifoldebau chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth ddewis dulliau dychwelyd cyflenwadau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, awdurdodau perthnasol, cwsmeriaid, cyflenwyr
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Manylebau: set o ofynion i’w bodloni gan gynnyrch materol neu wasanaeth. Gallai manylebau fod ar gyfer y math o farchnad, y lleoliad, y math o nwyddau neu ofynion y cwsmer.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM108
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
derbyn; dychwelyd; nwyddau; cadwyn gyflenwi