Amserlennu dosbarthiad nwyddau
URN: SFLSCM107
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag amserlennu dosbarthiad nwyddau. Mae’n cynnwys cael a chadarnhau gwybodaeth yn ymwneud â dosbarthu. Mae hefyd yn cynnwys amserlennu dosbarthu i fodloni gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol, asesu ffactorau a risgiau perthnasol, ymdrin â phroblemau a rhoi canlyniadau gwerthusiadau sydd yn cydymffurfio â gofynion.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau’r nwyddau sydd yn cael eu hamserlennu ar gyfer dosbarthiad
- cael gwybodaeth am y nwyddau sydd yn cael eu hamserlennu ar gyfer dosbarthiad
- amserlennu dosbarthu nwyddau i fodloni gofynion y gadwyn gyflenwi
- cadarnhau’r amserlen dosbarthu nwyddau gyda chydweithwyr
- nodi ac adolygu ffactorau perthnasol a’r risgiau a allai effeithio ar yr amserlen ddosbarthu
- nodi ac ymdrin â materion gyda’r amserlen ddosbarthu
- nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch ar gyfer y nwyddau angenrheidiol sydd yn cael eu dosbarthu
- hysbysu’r cydweithwyr a’r rhanddeiliaid allweddol perthnasol am yr amserlen
- amserlennu dosbarthiad nwyddau yn unol â’r gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd o fewn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth amserlennu dosbarthiad nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich nodau strategol, amcanion a’ch gweithgareddau mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi ac amserlennu dosbarthiad nwyddau
- y dulliau a’r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer amserlennu dosbarthiad nwyddau
- y dulliau ar gyfer amserlennu dosbarthiad nwyddau
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gydag amserlennu dosbarthiad nwyddau
- sut i nodi ac ymdrin ag unrhyw broblemau gydag amserlennu dosbarthiad nwyddau
- y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol
- y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud ag amserlennu dosbarthiad nwyddau
- sut i nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd yn angenrheidiol gan y nwyddau sydd yn cael eu dosbarthu
- eich cyfrifoldebau chi a’ch sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth amserlennu dosbarthiad nwyddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Amserlen: cynllun neu amserlen o gyfres o ddigwyddiadau neu weithgareddau
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM107
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
amserlen; dosbarthiad; nwyddau; cadwyn gyflenwi