Nodi gofynion ar gyfer dosbarthu cyflenwadau

URN: SFLSCM105
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2018

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â nodi gofynion ar gyfer dosbarthu cyflenwadau. Mae’n cynnwys cael gwybodaeth, cadarnhau argaeledd adnoddau a darparu manylebau ar gyfer gofynion dosbarthu. Mae hefyd yn cynnwys asesu’r holl ffactorau perthnasol, hysbysu cydweithwyr a chydymffurfio â gofynion.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyni cyflenwi. Gallai hyn, er enghraifft fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cael gwybodaeth am y cyflenwadau sydd yn cael eu dosbarthu
  2. cael gwybodaeth am y gofynion ar gyfer dosbarthu
  3. cadarnhau argaeledd adnoddau i gefnogi dosbarthu cyflenwadau
  4. darparu manylebau ar gyfer dosbarthu cyflenwadau
  5. nodi ac adolygu ffactorau a risgiau perthnasol a allai effeithio ar ddosbarthu cyflenwadau
  6. hysbysu’r holl gydweithwyr perthnasol am y gofynion dosbarthu
  7. cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol perthnasol ar gyfer dosbarthu cyflenwadau
  8. nodi dosbarthiad cyflenwadau yn unol â gofynion sefydliadol perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi 
  2. damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli’r gadwyn gyflenwi 
  3. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau’r gadwyn gyflenwi
  4. y dulliau a’r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer nodi gofynion ar gyfer dosbarthu cyflenwadau
  5. y gofynion cyfreithiol, rheoliadol a sefydliadol perthnasol ar gyfer dosbarthu cyflenwadau
  6. damcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
  7. damcaniaethau, modelau ac arferion mesur perfformiad a meincnodi
  8. dulliau a gweithdrefnau rheoli risg
  9. damcaniaethau, modelau ac arferion cyflwyno


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Cyflenwadau: unrhyw gyfuniad o nwyddau a gwasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffaeliad, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Manylebau: set o ofynion i gael eu bodloni gan gynnyrch materol neu wasanaeth


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLSCM105

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

dosbarthu; cyflenwadau; cadwyn gyflenwi