Dewis lleoliadau a chyfleusterau ar gyfer storio nwyddau

URN: SFLSCM103
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis lleoliadau a chyfleusterau ar gyfer storio nwyddau. Mae’n cynnwys cael a gwerthuso gwybodaeth yn ymwneud â lleoliadau a chyfleusterau storio. Mae hefyd yn cynnwys nodi lleoliadau a chyfleusterau storio addas, asesu buddion a risgiau, datrys unrhyw broblemau a rhoi’r wybodaeth berthnasol i gydweithwyr.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg nwyddau neu rolau rheoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cadarnhau’r math o leoliadau, cyfleusterau ac adnoddau storio sydd eu hangen ar gyfer storio nwyddau
  2. cael gwybodaeth am leoliadau a chyfleusterau storio, yn cynnwys cysylltedd rhwydwaith
  3. gwerthuso gwybodaeth am addasrwydd y lleoliadau a’r cyfleusterau storio
  4. dewis y lleoliadau, cyfleusterau a’r adnoddau storio sydd yn gallu bodloni’r manylebau perthnasol ar gyfer y nwyddau, y cwsmer ac unrhyw ofynion eraill
  5. asesu buddion a risgiau defnyddio lleoliadau, cyfleusterau ac adnoddau storio, yn cynnwys yn ymwneud ag iechyd a diogelwch, yr amgylchedd a chynaliadwyedd
  6. nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch ar gyfer y nwyddau sydd yn cael eu storio
  7. nodi ac ymdrin ag unrhyw broblemau gyda lleoliadau, cyfleusterau ac adnoddau storio
  8. rhoi’r wybodaeth berthnasol i gydweithwyr am y lleoliadau, cyfleusterau a’r adnoddau storio
  9. cydymffurfio â’r gofynion perthnasol ar gyfer dewis lleoliadau, cyfleusterau ac adnoddau storio ar gyfer storio nwyddau
  10. cydymffurfio â’r holl weithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol sydd yn angenrheidiol ar gyfer dewis lleoliadau, cyfleusterau ac adnoddau storio
  11. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd o fewn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth ddewis lleoliadau, cyfleusterau ac adnoddau storio


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  3. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi a dewis lleoliadau, cyfleusterau ac adnoddau storio ar gyfer storio nwyddau
  4. y dulliau a’r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer dewis lleoliadau, cyfleusterau ac adnoddau storio ar gyfer storio nwyddau
  5. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion logisteg
  6. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda dewis lleoliadau, cyfleusterau ac adnoddau storio ar gyfer y nwyddau
  7. sut i nodi ac ymdrin ag unrhyw broblemau gyda lleoliadau a chyfleusterau storio ar gyfer storio nwyddau 
  8. y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
  9. y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â dewis lleoliadau, cyfleusterau ac adnoddau storio ar gyfer storio nwyddau
  10. sut i nodi unrhyw fesurau diogeledd a bioddiogelwch sydd yn angenrheidiol gan y nwyddau sydd yn cael eu storio
  11. eich cyfrifoldebau chi a’r sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth storio nwyddau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Manylebau: set o ofynion i’w bodloni gan gynnyrch materol neu wasanaeth. Gallai’r manylebau fod ar gyfer y math o farchnad, y lleoliad, y math o nwyddau neu ofynion y cwsmer

Lleoliadau, cyfleusterau ac adnoddau storio: dros dro neu barhaol, amgylchynol, wedi oeri, sych, awyr agored, dan do, wedi ei awyru, mynediad gwahanol a chyfyngedig, deunyddiau, cyfarpar ymdrin, pobl, PPE.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM103

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

dewis; lleoliadau; cyfleusterau; storio; nwyddau; cadwyn gyflenwi