Amserlennu llif cyflenwadau yn y gadwyn gyflenwi

URN: SFLSCM101
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud ag amserlennu llif cyflenwadau yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys cael gwybodaeth am gyflenwadau y mae angen eu symud, gan gadarnhau argaeledd adnoddau ac amserlennu llif cyflenwadau. Mae hefyd yn cynnwys asesu’r ffactorau a’r risgiau perthnasol, datrys problemau a hysbysu cydweithwyr o’r amserlenni.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cael y wybodaeth berthnasol am y cyflenwadau y mae angen eu symud
  2. cadarnhau argaeledd adnoddau i gynnal llif cyflenwadau
  3. amserlennu llif cyflenwadau i fodloni gofynion y gadwyn gyflenwi
  4. nodi ac asesu’r ffactorau a’r risgiau perthnasol, yn cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth a allai effeithio ar amserlennu cyflenwadau
  5. nodi a datrys unrhyw broblemau gydag amserlennu cyflenwadau, o fewn terfynau eich awdurdod, a’u huwchgyfeirio at y rhanddeiliaid perthnasol
  6. hysbysu’r holl gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol am yr amserlenni
  7. cydymffurfio â gofynion sefydliadol ar gyfer amserlennu llif cyflenwadau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  3. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi
  4. y damcaniaethau, modelau a’r arferion rheoli gweithrediadau
  5. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer llif cyflenwadau
  6. y mathau o ddulliau ar gyfer amserlennu llif cyflenwadau
  7. y dulliau a’r gweithdrefnau dadansoddi risg a ddefnyddir gan y sefydliad wrth amserlennu llif cyflenwadau
  8. y dulliau a’r gweithdrefnau gwerthuso perthnasol a ddefnyddir gan y sefydliad
  9. y damcaniaethau, modelau a’r arferion logisteg perthnasol
  10. y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan y sefydliad i gyfathrebu gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid perthnasol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Cyflenwadau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol 


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM101

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

1243

Geiriau Allweddol

amserlen; cyflenwadau; cadwyn gyflenwi