Dadansoddi perfformiad cyflenwyr
URN: SFLSCM100
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2022                        
                    
                Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dadansoddi perfformiad cyflenwyr. Mae’n cynnwys cael, cydgrynhoi a pharatoi gwybodaeth yn ymwneud â pherfformiad cyflenwyr, gan asesu’r holl ffactorau perthnasol a rhoi canlyniadau’r gwerthusiad i gydweithwyr.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol am y nwyddau a’r gwasanaethau a ddarperir gan gyflenwyr
- cael gwybodaeth yn ymwneud â gwasanaeth am berfformiad cyflenwyr
- cydgrynhoi a pharatoi’r wybodaeth ar gyfer ei dadansoddi
- dadansoddi gwybodaeth am berfformiad cyflenwyr, gan ddefnyddio’r dulliau a’r technegau dadansoddi perthnasol
- gwerthuso gwybodaeth am berfformiad cyflenwyr
- nodi’r cyflenwyr sydd wedi cyflawni’r manylebau i gyflenwi nwyddau a gwasanaethau, a’r rheiny sydd heb wneud hynny
- asesu’r risg i’r gadwyn gyflenwi o barhau i ddefnyddio cyflenwyr sydd heb gyflawni gofynion y manylebau
- nodi unrhyw broblemau gyda pherfformiad cyflenwyr sydd angen sylw ar unwaith
- cyfathrebu canlyniadau’r gwerthusiad i gydweithwyr
- argymell opsiynau ar gyfer gwella perfformiad cyflenwyr i gydweithwyr
- cydymffurfio â’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gwerthuso perfformiad cyflenwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi a dadansoddiad cyflenwyr
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer cyflenwyr
- y dulliau a’r technegau dadansoddi sy’n berthnasol i’r wybodaeth yn ymwneud â’r gwasanaeth am berfformiad cyflenwyr
- y dulliau sydd ar gael ar gyfer gwerthuso gwybodaeth am berfformiad cyflenwyr
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion caffael
- y damcaniaethau, modelau a’r arferion mesur a meincnodi perfformiad a ddefnyddir gan eich sefydliad i ddadansoddi perfformiad cyflenwyr
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli ansawdd
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau rheoli risg sydd ar gael i gynorthwyo’r gwaith o ddadansoddi perfformiad cyflenwyr
- sut i nodi problemau gyda pherfformiad cyflenwyr sydd yn gofyn am weithredu ar unwaith
- y fformat sydd yn ofynnol gan eich sefydliad i gyflwyno eich canfyddiadau a’ch argymhellion o’r dadansoddiad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol  
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi  
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, rheoli trafnidiaeth a gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol  
Manylebau: set o ofynion i gael eu bodloni gan gynnyrch materol neu wasanaeth. Gallai’r manylebau fod o’r math o farchnad, y lleoliad, y mathau o nwyddau neu ofynion y cwsmer. 
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Lantra
        
    
URN gwreiddiol
        SFLSCM100
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth        
    
Cod SOC
        1243
        
    
Geiriau Allweddol
            dadansoddi; gwerthuso; perfformiad; cyflenwyr; cadwyn gyflenwi