Monitro a gwerthuso effaith archwiliadau mewnol ar y sefydliad

URN: SFLOLC8
Sectorau Busnes (Suites): Swyddfa Draffig
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2023

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro a gwerthuso effaith archwiliadau mewnol ar y sefydliad. Mae’n cynnwys cadarnhau cydymffurfio â gofynion mewnol neu allanol. Mae hefyd yn cynnwys cytuno ar unrhyw gamau o archwiliadau mewnol a sut caiff y rhain eu monitro o fewn graddfeydd amser y cytunwyd arnynt.

Byddwch hefyd yn gyfrifol am werthuso’r defnydd o archwiliadau mewnol a gwybodaeth/adrodd ar archwiliadau, gan roi argymhellion i’r rheiny sydd eu hangen.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am reoli prosesau, yn cynnwys archwilio, mewn amgylchedd logisteg.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cytuno ar amcanion Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synwyrol (CAMPUS) ar gyfer archwiliadau mewnol gyda chydweithwyr yn unol â gofynion sefydliadol
  2. adolygu’r systemau sydd i gael eu harchwilio’n fewnol, a’u cynnyrch gofynnol, trwy archwilio’r dogfennau a’r wybodaeth berthnasol
  3. ymgynghori â chydweithwyr gweithredol, gan ddefnyddio’r systemau i gael eu harchwilio’n fewnol, i gadarnhau eich dealltwriaeth o’r ffordd y maent yn gweithio’n ymarferol
  4. gweithio gyda chydweithwyr i gytuno ar y camau sydd eu hangen i fonitro perfformiad yn erbyn yr amcanion y cytunwyd arnynt, a’u gweithredu
  5. defnyddio’r dulliau y cytunwyd arnynt i fonitro a gwerthuso adroddiadau archwilio mewnol
  6. nodi, o fewn y graddfeydd amser angenrheidiol, unrhyw amrywiadau neu broblemau gydag archwiliadau mewnol
  7. gwerthuso effaith amrywiadau neu broblemau ac argymell camau cywirio i’r cydweithwyr a’r rhanddeiliaid perthnasol
  8. cydnabod newidiadau mewn amgylchiadau, o fewn y graddfeydd amser angenrheidiol ac addasu cynlluniau a gweithgareddau
  9. darparu rhesymeg i’r cydweithwyr a’r rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer unrhyw amrywiadau neu newidiadau i’r rhaglen gyffredinol o archwiliadau mewnol
  10. gwerthuso effaith gyffredinol archwiliadau mewnol yn erbyn y cynllun a’r gofynion sefydliadol
  11. nodi meysydd o arfer da a meysydd ar gyfer gwella, a chyfathrebu’r rhain i’r cydweithwyr a’r rhanddeiliaid perthnasol, gan ddefnyddio’r fformatiau a’r dulliau sefydliadol y cytunwyd arnynt
  12. nodi’r gwerth ychwanegol gweithgareddau archwiliadau mewnol i’r sefydliad
  13. nodi, monitro a gwerthuso cyfrifoldebau unigolion mewn perthynas â gweithgareddau archwilio mewnol
  14. cyflwyno gwybodaeth ar fformat y cytunwyd arno a’i darparu ar gyfer cydweithwyr a rhanddeiliaid perthnasol o fewn y graddfeydd amser angenrheidiol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. sut i ddiffinio a chytuno ar amcanion Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol (CAMPUS)
  2. sut i adolygu systemau wedi eu harchwilio a’u cynnyrch trwy archwilio dogfennau a’r wybodaeth berthnasol yn ymwneud â’r archwiliad
  3. sut i gadarnhau eich dealltwriaeth o systemau sefydliadol trwy ymgynghori â chydweithwyr gweithredol
  4. y dulliau o fonitro a gwerthuso effaith archwiliadau mewnol
  5. sut i nodi a gwerthuso materion neu amrywiadau gydag archwiliadau mewnol
  6. sut i fonitro a gwerthuso effaith materion neu amrywiadau a datblygu atebion neu gamau cywiro
  7. sut i nodi pa gydweithwyr a rhanddeiliaid ddylai gytuno ar gamau cywiro ac argymhellion
  8. sut i nodi arfer da a meysydd ar gyfer gwella
  9. sut i nodi cyfraniad gweithgareddau archwilio mewnol a’r gwerth cyffredinol i’r sefydliad
  10. sut i werthuso perfformiad unigolyn o weithgareddau archwilio mewnol
  11. sut i gyflwyno a chyfathrebu gwybodaeth archwilio mewnol i’r  cydweithwyr a’r rhanddeiliaid perthnasol



Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLOLC8

Galwedigaethau Perthnasol

Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

4134

Geiriau Allweddol

gwerthuso; archwilio; trwydded gweithredwr; cydymffurfio; monitro