Adrodd ar archwiliadau mewnol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag adrodd ar archwiliadau mewnol i sicrhau cydymffurfio â gofynion mewnol neu allanol. Mae’n cynnwys cyfrifoldeb dros gynnal archwiliadau mewnol, cydgrynhoi a chyflwyno gwybodaeth yn ymwneud â chanlyniadau archwilio. Bydd hyn yn cynnwys adrodd wrth randdeiliaid a chadw cyfrinachedd a diogeledd gwybodaeth.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am reoli prosesau, yn cynnwys archwilio, mewn amgylchedd logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
nodi a chydgrynhoi’r wybodaeth sy’n ofynnol ar gyfer yr adroddiad archwilio mewnol
cynnal archwiliadau mewnol, yn unol â gofynion sefydliadol
- cyflwyno gwybodaeth i’r cydweithwyr a’r rhanddeiliaid perthnasol yn ymwneud â chanlyniadau archwilio mewnol
- creu’r adroddiad archwilio mewnol a’i gyflwyno i’r cydweithwyr a’r rhanddeiliaid perthnasol, o fewn y llinell amser y cytunwyd arni
- cadarnhau bod deunydd ategol ar gyfer yr adroddiad archwilio mewnol ar gael i’r rheiny sydd yn gwneud cais amdano
- cyflwyno’r adroddiad archwilio mewnol ar fformat sydd yn cyd-fynd â gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod yr adroddiad archwilio mewnol a’r deunydd ategol yn ddiogel ac yn cael ei gadw, yn unol â’r gofynion sefydliadol a rheoliadol perthnasol
- nodi, trefnu a blaenoriaethu materion sydd yn deillio o archwiliadau mewnol i’w hymchwilio
archwilio a datrys materion archwilio mewnol
gwneud argymhellion o'r archwiliad mewnol sydd wedi'u dylunio i arwain at welliannau
- nodi a chyflwyno canfyddiadau ac argymhellion i gael cytundebau gan gydweithwyr a rhanddeiliaid
- cytuno ar gyfrifoldebau a graddfeydd amser ar gyfer gweithredu argymhellion neu ganfyddiadau archwilio mewnol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
pam, pryd a chan bwy y mae angen adroddiadau archwilio mewnol
y mathau o wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer yr adroddiadau archwilio mewnol
- sut i gynnal archwiliad mewnol, yn unol â gofynion sefydliadol
- y graddfeydd a’r terfynau amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau archwilio mewnol
- pam a sut i gyflwyno adroddiadau archwiliadau mewnol ar fformat sydd yn cyd-fynd â gofynion sefydliadol
- pwysigrwydd storio adroddiadau archwiliadau mewnol a’r wybodaeth ategol yn ddiogel
- sut i ymchwilio i faterion sydd yn deillio o archwiliadau mewnol a’u datrys o fewn y graddfeydd amser y cytunwyd arnynt
- sut i strwythuro a chrynhoi data er mwyn amlygu pwyntiau allweddol
- sut i ysgrifennu a strwythuro adroddiadau archwilio mewnol a dod i gasgliadau gan ddefnyddio data archwilio
- sut i wneud argymhellion o’r archwiliad mewnol sydd wedi eu dylunio i greu gwelliannau
- sut i gyflwyno canfyddiadau ac argymhellion, yn cynnwys gwybodaeth ddadleuol, ar gyfer cydweithwyr a rhanddeiliaid
- sut i gytuno ar gynlluniau, cyfrifoldebau, graddfeydd a therfynau amser ar gyfer cwblhau camau gwella
- pam y mae’n bwysig nodi cyfrifoldebau a graddfeydd amser ar gyfer cwblhau camau gwella
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol