Nodi, hyrwyddo a monitro cydymffurfio mewnol â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â nodi, hyrwyddo a monitro cydymffurfio mewnol â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant. Mae’n cynnwys bod yn gyfrifol am nodi ble mae cydymffurfio presennol yn gweithio yn y sefydliad, nodi diffyg cydymffurfio a chynnal systemau cofnodi mewn perthynas â chydymffurfio. Mae’r rôl yn cynnwys gweithio a chytuno ar weithredoedd gyda’r rhanddeiliaid perthnasol a darparu adroddiadau rheolaidd.
Mae’r safon hon ar gyfer y Gweithredwr, sef deiliad y drwydded, a’r Rheolwr Trafnidiaeth mewnol neu allanol, sydd yn gyfrifol am gydymffurfio â thrwydded y gweithredwr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
nodi a rhoi manylion am y meysydd a’r gweithgareddau lle mae cydymffurfio mewnol â gofynion trwydded y gweithredwr cludiant yn cael ei fodloni ar gyfer eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
nodi a rhoi manylion y digwyddiadau o ddiffyg cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
- cadarnhau bod y dogfennau ategol perthnasol ar gyfer diffyg cydymffurfio wedi eu cwblhau, yn unol â’r gofynion rheoliadol perthnasol
- trafod a chytuno gyda’r rhanddeiliaid perthnasol, ar y camau cywiro angenrheidiol a’r raddfa amser ar gyfer cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
- trafod a chytuno gyda’r rhanddeiliaid ar y camau ataliol angenrheidiol i leihau achosion o ddiffyg cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
- cadarnhau bod camau ataliol a chywiro yn rhan o’r system archwilio cydymffurfio
- datblygu a lledaenu adroddiadau rheolaidd y rhanddeiliaid i hyrwyddo cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
- hysbysu cydweithwyr sut i nodi a monitro digwyddiadau o ddiffyg cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
- hysbysu a hyrwyddo i randdeiliaid y meysydd, y gweithgareddau a’r ffiniau angenrheidiol ar gyfer cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
- profi arferion gweithredol eich sefydliad trafnidiaeth cludiant a monitro’r wybodaeth er mwyn hyrwyddo cydymffurfio mewnol
- nodi risgiau a goblygiadau diffyg cydymffurfio i’ch sefydliad trafnidiaeth cludiant
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y meysydd a’r gweithgareddau sydd wedi eu cynnwys gan systemau cydymffurfio mewnol y sefydliad ar gyfer trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
- y dulliau a faint o wybodaeth sydd ei hangen i nodi a monitro cydymffurfio mewnol â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
- sut i nodi a chofnodi cydymffurfio a diffyg cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
- sut i nodi’r rhanddeiliaid perthnasol ar gyfer trafod a chytuno ar gamau cywiro
- y mathau o gamau cywiro y gellir eu cymryd, a’r graddfeydd amser sefydliadol a argymhellir
- y mathau o gamau ataliol y gellir eu cymryd, a’r graddfeydd sefydliadol a argymhellir
- sut i lunio adroddiadau a hyrwyddo a monitro cydymffurfio mewnol â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
- pwysigrwydd cynghori’r cydweithwyr a’r rhanddeiliaid perthnasol er mwyn nodi, hyrwyddo a monitro cydymffurfio mewnol â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant
- y dulliau perthnasol o brofi arferion gweithredol fydd yn hyrwyddo cydymffurfio mewnol
- yr hyn y mae diffyg cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau trafnidiaeth cludiant yn ei olygu ar gyfer eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Arferion gweithredol:
oriau gyrwyr, gwiriadau trwydded gyrrwr, rheoliadau amser gwaith, gweithdrefnau tacograff, cydymffurfiad gweithredwr (system archwilio), addasrwydd ar gyfer y ffordd, diffygion a chywiriadau cerbyd, cynnal cofnodion hyfforddiant, dogfennau cyfreithiol, Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC) a sgôr OCRS, addasrwydd canolfan weithredu, cyfleusterau glanhau a systemau gwaith diogel