Monitro, adolygu a gwerthuso gweithredu’r systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro, adolygu a gwerthuso gweithredu’r systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant. Mae’r systemau cydymffurfio yn cynnwys gweithdrefnau trwydded ac archwilio’r gweithredwr.
Mae’r safon hon ar gyfer y Gweithredwr, sef deiliad y drwydded, a’r Rheolwr Trafnidiaeth mewnol neu allanol, sydd yn gyfrifol am gydymffurfio â thrwydded y gweithredwr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
monitro’r camau sydd yn cael eu cymryd i weithredu’r systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
rhoi arweiniad i gydweithwyr perthnasol ar gyfer datrys diffyg cydymffurfio a nodir yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
- cynnal a diweddaru cofnodion gweithredu’r systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
- monitro gweithredu’r systemau cydymffurfio, gan gymryd yr holl dystiolaeth a’r ffactorau perthnasol i ystyriaeth
- adolygu’r adnoddau sydd yn ofynnol ar gyfer gweithredu’r systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant yn barhaus
- cysylltu â chydweithwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf ar gydymffurfio, a gwerthuso’r gwaith o weithredu’r systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
- cyfathrebu eich canfyddiadau o’r gwerthusiad i gydweithwyr
- argymell meysydd ar gyfer newid neu welliant wrth weithredu’r systemau cydymffurfio, lle maent wedi cael eu nodi
- nodi ac adolygu effaith gweithredu systemau cydymffurfio ar bob maes o’ch sefydliad trafnidiaeth cludiant
- adolygu cynlluniau wrth gefn ac arferion presennol i sicrhau eu bod yn ystyried risgiau a chyfleoedd sydd yn dod i’r amlwg yn ymwneud â systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
- rhoi mewnbwn i ddiwygio cynlluniau wrth gefn a chynlluniau gweithredu yn ymwneud â systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y camau i gael eu cymryd i weithredu’r systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant a sut i fonitro’r rhain
y technegau ar gyfer monitro, adolygu a gwerthuso’r gwaith o weithredu’r systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
- y ffynonellau gwybodaeth mewnol ac allanol i gefnogi gweithredu’r systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
- sut i gyflwyno arweiniad ar gyfer gweithredu’r systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant fydd yn hwyluso cydymffurfio
- yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gweithredu’r systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant yn barhaus a phwysigrwydd adolygu’r rhain
- sut i ddatblygu mesurau gwerthuso a meini prawf ar gyfer y systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
- y wybodaeth sydd ei hangen i werthuso’r gwaith o weithredu’r systemau cydymffurfio a ble i’w chael
- sut i nodi ac adolygu effaith y systemau cydymffurfio ar bob maes o’ch sefydliad trafnidiaeth cludiant
- sut i nodi’r camau sydd eu hangen er mwyn i’r systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant fod yn effeithiol y gweithdrefnau a’r dulliau ar gyfer sicrhau bod gwelliannau i’r systemau cydymffurfio wedi cael eu gweithredu yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
- sut i nodi risgiau a chyfleoedd sydd yn dod i’r amlwg a’r effaith ar systemau cydymffurfio yn eich sefydliad trafnidiaeth cludiant
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Systemau cydymffurfio: mae systemau cydymffurfio yn hyrwyddo ymddygiad cyfreithiol a moesegol yn y sefydliad trwy set o weithdrefnau a gweithredoedd sydd wedi eu dylunio i atal, canfod ac ymateb i ymddygiad anghywir, twyll neu weithredoedd sydd yn mynd yn erbyn gofynion rheoliadol neu bolisi sefydliadol