Datblygu canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio ar gyfer gweithredu trafnidiaeth gludo i gefnogi gofynion trwydded y gweithredwr
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio ar gyfer gweithredu trafnidiaeth gludo i gefnogi gofynion trwydded y gweithredwr. Bydd y canllaw yn rhan annatod o bolisi cydymffurfio eich sefydliad. Gall fod ar ffurf llawlyfr ond gallai fod ar gael fel adnodd ar-lein.
Byddwch yn gyfrifol am sefydlu'r canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio, nodi'r rheoliadau i gael eu cynnwys ac esbonio'r rolau a'r cyfrifoldebau ar gyfer cydymffurfio â gweithdrefnau. Mae'n rhaid i chi hefyd sicrhau bod cydweithwyr yn eich sefydliad yn gwybod sut i gael gafael ar y canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio.
* *
Mae'r safon hon ar gyfer y Gweithredwr, sef deiliad y drwydded, a'r Rheolwr Trafnidiaeth mewnol neu allanol, sy'n gyfrifol am sicrhau cydymffurfio â thrwydded y gweithredwr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- sefydlu diben a chwmpas y canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio i gefnogi gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithredu trafnidiaeth gludo
- pennu pwy fydd yn cyfrannu at gynnwys y canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio a chadarnhau eu bod yn deall eu cyfraniad gofynnol
- nodi'r systemau a'r gweithdrefnau gweithredu perthnasol sydd wedi eu sefydlu wrth weithredu trafnidiaeth gludo a'u trawsgyfeirio i ofynion trwydded y gweithredwr
- nodi'r gofynion cydymffurfio er mwyn i'ch sefydliad gael ei gynnwys yn y canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio, yn cynnwys ymgymeriadau
- datblygu'r canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio i gefnogi gofynion trwydded y gweithredwr
- adolygu a chytuno ar gynnwys y canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio gyda'r rhanddeiliaid perthnasol
- adolygu a chadarnhau bod y canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio yn cael ei ddiweddaru a bod y newidiadau cyfreithiol a rheoliadol perthnasol yn cael eu hymgorffori mewn systemau a gweithdrefnau
- hyrwyddo a lledaenu'r canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio yn eich sefydliad i gydweithwyr perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- cwmpas y canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio i gefnogi gofynion canllaw trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithredu trafnidiaeth gludo
- y rheoliadau perthnasol i gael eu cynnwys yn y canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio i gefnogi gofynion trwydded y gweithredwr
- pwysigrwydd cynnwys rhestr ddiweddar o'r ffynonellau gwybodaeth ac arweiniad perthnasol yn y canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio
- pam y mae'n bwysig nodi'r dulliau monitro ar gyfer cydymffurfio gyda gofynion trwydded y gweithredwr a ddefnyddir gan y sefydliad
- sut i nodi a chyfathrebu rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr mewn perthynas â chydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithrediadau cludo
- sut i ddatblygu canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio i gefnogi gofynion trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithredu trafnidiaeth gludo
- pwysigrwydd adolygu a diweddaru'r canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio, sut i gynnal adolygiadau, a phryd i wneud hynny
- pwysigrwydd gwneud y canllaw cyfeirio ar gyfer cydymffurfio yn hygyrch i gydweithwyr yn eich sefydliad
- y gofynion rheoliadol perthnasol sydd yn gymwys i weithredu trafnidiaeth gludo
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ymgymeriadau
Yr ymgymeriadau penodol sydd wedi cael eu llofnodi a'u cytuno wrth gael trwydded gweithredwr e.e. oriau gyrrwr, gwiriadau trwydded gyrrwr, rheoliadau amser gwaith, gweithdrefnau tacograff, cydymffurfio gweithredwr (system archwilio), addasrwydd ar gyfer y ffordd, diffygion ac unioni cerbyd, cynnal cofnodion hyfforddiant, cofnodion ariannol, dogfennau cyfreithiol, Tystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrrwr (DCPC) a sgôr OCRS, addasrwydd canolfan weithredu, cyfleusterau glanhau a systemau gwaith diogel