Datblygu, cyfathrebu a gweithredu polisi cydymffurfio ar gyfer gweithredu trafnidiaeth gludo i ddiogelu trwydded y gweithredwr

URN: SFLOLC3
Sectorau Busnes (Suites): Swyddfa Draffig
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu, cyfathrebu a gweithredu polisi cydymffurfio ar gyfer gweithredu trafnidiaeth gludo i ddiogelu trwydded y gweithredwr. Mae hyn yn cynnwys deall gofynion cydymffurfio â'r drwydded i'r gweithredwr er mwyn datblygu polisi. Mae hefyd yn cynnwys cyfathrebu gofynion a phwysigrwydd y polisi i gydweithwyr, a sicrhau eu bod yn deall eu rôl yn y broses.

* *

Mae'r safon hon ar gyfer y Gweithredwr, sef deiliad y drwydded, a'r Rheolwr Trafnidiaeth mewnol neu allanol, sydd yn gyfrifol am sicrhau bod y gweithredwr yn cydymffurfio â'r drwydded.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r gofynion ar gyfer cydymffurfio â thrwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
  2. diffinio cyfrifoldebau ac atebolrwydd cydweithwyr wrth weithredu eich trafnidiaeth gludo i ddiogelu trwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
  3. datblygu polisi cydymffurfio ar gyfer gweithredu trafnidiaeth gludo i gynnwys rheoliadau perthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
  4. datblygu dulliau a mesurau ar gyfer monitro a gwerthuso perfformiad yn erbyn polisi cydymffurfio gweithredwr trafnidiaeth gludo
  5. rheoli cydweithwyr ac adnoddau lle bo angen i fodloni gofynion polisi cydymffurfio â thrwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
  6. cadarnhau bod cynlluniau strategol a gweithredol eich sefydliad yn cyd-fynd a pholisi cydymffurfio'r gweithredwr trafnidiaeth gludo
  7. cyfathrebu gofynion y polisi cydymffurfio i gydweithwyr a chadarnhau eu hymrwymiad i gynnal y cydymffurfio
  8. datblygu rhaglen hyfforddiant ar gyfer cydweithwyr i gynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o ofynion perthnasol trwydded y gweithredwr sy'n berthnasol iddyn nhw a'u gwaith
  9. cytuno ar gynllun gweithredu gyda chydweithwyr ar gyfer polisi cydymffurfio eich sefydliad
  10. gweithredu a monitro'r polisi cydymffurfio yn unol â'r cynlluniau sefydliadol cytûn

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. e i ddod o hyd i'r wybodaeth fydd yn llywio'r polisi cydymffurfio ar gyfer gweithredu eich trafnidiaeth gludo
  2. y gofynion rheoliadol perthnasol i gynnal trwydded y gweithredwr ar gyfer gweithredu eich trafnidiaeth gludo
  3. rolau, cyfrifoldebau ac atebolrwydd cydweithwyr wrth weithredu trafnidiaeth gludo yn ymwneud â diogelu trwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
  4. sut i ddatblygu polisi cydymffurfio ar gyfer eich sefydliad
  5. y mesurau a'r dulliau ar gyfer monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y polisi cydymffurfio
  6. yr addasiadau polisi sydd eu hangen er mwyn i staff ac adnoddau fodloni gofynion y polisi cydymffurfio a sut i ganiatáu ar gyfer y rhain
  7. sut i adnabod enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio a'r camau adfer priodol y dylid eu cymryd
  8. pwysigrwydd ymgynghori â chydweithwyr wrth ddatblygu'r polisi cydymffurfio a sut i ymgynghori â chydweithwyr
  9. pwysigrwydd cael ymrwymiad cydweithwyr i'r polisi cydymffurfio a'r cynlluniau ar gyfer gweithredu
  10. sut i gyfathrebu gofynion a phwysigrwydd gweithredu polisi cydymffurfio i gydweithwyr a'r sefydliad ehangach er mwyn diogelu trwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
  11. canlyniadau peidio â chydymffurfio â'r polisi cydymffurfio i'r sefydliad
  12. sut i weithredu a monitro'r polisi cydymffurfio gyda'r cynlluniau sefydliadol cytûn

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLOLC3

Galwedigaethau Perthnasol

Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiol Trafnidiaeth, Rheolwyr Dosbarthu

Cod SOC

8239

Geiriau Allweddol

cydymffurfio; polisi; trwydded gweithredwr