Datblygu a gweithredu system archwilio mewnol i gadarnhau cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
URN: SFLOLC2
Sectorau Busnes (Suites): Swyddfa Draffig
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2018
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â datblygu a gweithredu system archwilio mewnol i gadarnhau cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo. Bydd angen i chi ddeall egwyddorion archwilio a gofynion trwydded y gweithredwr i ddatblygu system archwilio addas.
Mae'r safon yn cynnwys monitro'r system archwilio yn cynnwys rhoi adroddiadau ar gynnydd ac adolygu'r camau cytûn lle mae anghysondebau'n cael eu canfod yn ystod archwiliad.
Mae'r safon hon ar gyfer y Gweithredwr, sef deiliad y drwydded, a'r Rheolwr Trafnidiaeth mewnol neu allanol, sydd yn gyfrifol am drwydded y gweithredwr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu a chytuno ar system o archwiliadau mewnol gyda chydweithwyr i gadarnhau cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
- nodi ac adolygu prosesau yn y sefydliad yn erbyn gofynion trwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
- nodi peryglon diffyg cydymffurfio i'r sefydliad a ble y gellir gwneud gwelliannau i brosesau eich sefydliad
- cytuno ar gwmpas ac amcanion yr archwiliadau mewnol sydd eu hangen gyda'r cydweithwyr perthnasol er mwyn cadarnhau cydymffurfio â thrwydded y gweithredwr
- sefydlu amcanion ar gyfer y system archwilio mewnol sydd yn Benodol, Mesuradwy, Addas, Realistig ac wedi eu Targedu (SMART) er mwyn bodloni gofynion cydymffurfio
- gweithredu'r system archwilio mewnol gytûn i gadarnhau cydymffurfio
- monitro cynnydd y system archwilio mewnol yn erbyn yr amcanion a chymryd y camau priodol os bydd amrywiadau
- rhoi adroddiadau i'r cydweithwyr perthnasol yn erbyn y system archwilio mewnol, yn unol â gofynion y sefydliad
- cadw cofnodion o'r adroddiadau a'r archwiliadau mewnol yn unol â gofynion deddfwriaethol perthnasol
- gwerthuso canlyniadau'r system archwilio mewnol yn erbyn yr amcanion cytûn a gwneud argymhellion i gydweithwyr ac awdurdodau perthnasol parthed cydymffurfio
- adolygu effeithiolrwydd gweithredu cytûn i unioni anghysondebau yn ystod archwiliadau mewnol
- rhoi adborth i gydweithwyr perthnasol a gafodd archwiliad mewnol o'u systemau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- prosesau eich sefydliad i fodloni cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr trafnidiaeth o fewn cenhedloedd a gwledydd gwahanol y DU a'r rhai nad ydynt yn y DU
- safonau a gweithdrefnau cydymffurfio â thrwydded y gweithredwr
- y cwestiynau a'r dogfennau archwilio mewnol sy'n ofynnol i gadarnhau cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
- egwyddorion archwilio cydymffurfio a sut i gynnal ymchwiliad i archwiliad mewnol yng nghyd-destun gofynion trwydded y gweithredwr
- y cydweithwyr yn y sefydliad yr ydych yn cytuno ar gwmpas, amcanion a rhaglen y system archwilio mewnol gyda nhw er mwyn bodloni gofynion cydymffurfio
- y strwythurau, cyfrifoldebau a phrosesau yn y sefydliad sydd yn effeithio ar ofynion cydymffurfio trwydded y gweithredwr
- sut i adnabod enghreifftiau o ddiffyg cydymffurfio a'r camau unioni i'w cymryd
- sut i asesu peryglon diffyg cydymffurfio, systemau aneffeithiol a defnydd anghywir o'r system
- y rhesymau dros ddatblygu a sut i gytuno ar amcanion archwilio mewnol Penodol, Mesuradwy, Addas, Realistig ac wedi eu Targedu (SMART) er mwyn cadarnhau cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
- sut i ddatblygu a gweithredu system archwilio mewnol sydd yn cadarnhau cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
- sut i fonitro gweithgareddau archwilio mewnol yn erbyn amcanion, nodi amrywiadau a phennu gweithredu ataliol a chywirol perthnasol yn ymwneud â chydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
- y gofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer adroddiadau cynnydd ac i bwy y dylid adrodd ynghlch y rhain
- sut i fesur canlyniadau archwiliadau mewnol yn erbyn amcanion cytûn yn ymwneud â chydymffurfio a gofynion trwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
- sut i asesu effeithiolrwydd camau cywiro cytûn yn dilyn yr archwiliad mewnol er mwyn cadarnhau cydymffurfio â gofynion trwydded y gweithredwr trafnidiaeth gludo
- gofynion polisi mewnol y sefydliad ar gyfer adrodd ynghylch cydymffurfio a pherfformiad system archwilio
- pwysigrwydd cyfathrebu gyda chydweithwyr a chwsmeriaid mewn perthynas â chydymffurfio â thrwydded y gweithredwr
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLOLC2
Galwedigaethau Perthnasol
Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiol Trafnidiaeth, Rheolwyr Dosbarthu
Cod SOC
8239
Geiriau Allweddol
datblygu; gweithredu; trwydded y gweithredwr; cydymffurfio; archwilio