Dosbarthu post
URN: SFLMS151
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Post
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2018
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dosbarthu’r post i gwsmeriaid, ac mae’n cynnwys dosbarthu mewnol ac allanol. Bydd hyn yn cynnwys cadarnhau’r amserlenni dosbarthu, ac yna didoli a phentyrru’r post er mwyn iddo allu cael ei ddosbarthu yn y drefn fwyaf addas. Dylech weithredu i ddiogelu’r post wrth ei ddosbarthu. Bydd hyn hefyd yn cynnwys nodi unrhyw broblemau gyda’r dosbarthu, a chymryd y camau priodol.
Mae’r safon hon yn cynnwys gweithio ym mhob amgylchedd gwasanaeth post, yn cynnwys y Post Brenhinol, ac mae wedi ei hanelu at pob gweithredwr sydd yn gysylltiedig â gwasanaethau post ar bob lefel.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol, a dilyn gweithdrefnau sefydliadol, bob amser, wrth ddosbarthu post
- casglu post o’r cynwysyddion cywir
- ymdrin â phost yn ddiogel i leihau’r risg o anaf i chi eich hun, staff eraill, cwsmeriaid, neu niwed i’r post
- didoli a phentyrru’r post i drefn ofynnol ar gyfer y llwybr dosbarthu
- nodi eitemau post sydd angen dosbarthu arbennig at y cwsmer
- diogelu’r post wrth ddosbarthu, yn unol â’r gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol
- cadarnhau manylion y llwybr dosbarthu, yr amserlen, a’r mathau o bost sydd yn cael eu dosbarthu
- dosbarthu’r post yn unol â’r mathau o bost a’r amserlen ddosbarthu y cytunwyd arni
- gweithredu cyfarpar a mecanweithiau yn y mannau dosbarthu yn gywir
- nodi ac ymateb i unrhyw broblemau dosbarthu gan ddefnyddio gweithdrefnau sefydliadol, yn cynnwys dychwelyd eitemau post heb eu dosbarthu
- cyfathrebu gyda staff eraill a chwsmeriaid i roi unrhyw wybodaeth iddynt yn ymwneud â’r gwasanaeth dosbarthu neu’r amserlen
- cofnodi dosbarthu post yn y system wybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a dilyn unrhyw reoliadau diogeledd data a gwybodaeth yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu, yn cynnwys cael llofnodion cwsmeriaid lle bo angen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol y diwydiant a sefydliadol wrth ddosbarthu post, a’ch cyfrifoldebau chi drosoch chi eich hun ac eraill
- y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer dosbarthu post
- yr amserlenni dosbarthu, yn cynnwys llwybrau ac amserau
- y mathau o eitemau post sydd angen eu dosbarthu, yn cynnwys y rheiny â chyfarwyddiadau dosbarthu arbennig
- lleoliadau cynwysyddion gyda phost yn barod i’w ddosbarthu
- y risgiau ymdrin sydd yn gysylltiedig â dosbarthu mathau gwahanol o bost
- llwybrau a threfn dosbarthu
- y mathau o ofynion arbennig ar gyfer mathau gwahanol o bost
- y mathau o risgiau i bost wrth ei ddosbarthu
- y mathau o risgiau i chi eich hun wrth ddosbarthu
- y canllawiau sefydliadol perthnasol ar gyfer digoelu post a’r gofynion rheoliadol yn ymwneud â diogelu data
- y dulliau a’r gweithdrefnau ar gyfer dosbarthu post i fathau gwahanol o gyfeiriadau
- y mathau o gyfarpar a mecanweithiau a ddefnyddir mewn mannau dosbarthu
- y mathau o broblemau y gellir dod ar eu traws wrth ddosbarthu a’r dulliau ar gyfer ymdrin â’r rhain
- y mathau o wasanaethau dosbarthu sydd ar gael
- y polisïau sefydliadol perthnasol ar gyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data
- y wybodaeth a’r systemau cofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a sut i gofnodi gwybodaeth yn ymwneud â dosbarthu post
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLMS151
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu
Cod SOC
9211
Geiriau Allweddol
gwasanaethau post; post; casglu; dosbarthu; prosesu; llythyrau