Didoli post â llaw

URN: SFLMS150
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Post
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2018

Trosolwg

Mae’r safon hon yn ymwneud â didoli post â llaw yn barod i’w ledaenu neu ei ddosbarthu. Mae hyn yn cynnwys adnabod y math o bost sydd yn cael ei ddidoli, darllen y wybodaeth ar y post, ac yna dyrannu’r post i’r pentyrrau neu’r cynwysyddion cywir. Bydd angen i chi nodi unrhyw broblemau gydag eitemau post, a chymryd y camau angenrheidiol. Mae hyn yn cynnwys gweithio ym mhob amgylchedd gwasanaeth post, yn cynnwys y Post Brenhinol, ac mae wedi ei anelu at weithredwyr sydd yn gysylltiedig â gwasanaethau post ar bob lefel.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol, a dilyn gweithdrefnau sefydliadol, bob amser, wrth weithio mewn gwasanaethau post
  2. adnabod a chadarnhau’r mathau o bost sydd yn cael eu didoli â llaw
  3. symud y post o’r cynwysyddion yn barod ar gyfer ei ddidoli
  4. ymdrin â’r post yn ddiogel, i leihau’r risg o anaf i chi eich hun, staff eraill neu niwed i’r post
  5. darllen gwybodaeth ar y post, a chymryd y camau angenrheidiol pan nad yw’r wybodaeth ar gael neu’n weladwy
  6. didoli’r post ar y gyfradd angenrheidiol i gynnal llif gwaith gweithredol
  7. nodi post y mae angen triniaeth neu ddidoli arbennig arno
  8. nodi ac ymateb i unrhyw broblemau didoli, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  9. nodi ac adrodd am unrhyw bost sy’n ymddangos ei fod yn cyflwyno risg diogelwch neu ddiogeledd, gan ddefnyddio canllawiau diogelwch neu sefydliadol
  10. dyrannu’r post i’w gynwysyddion cywir ar gyfer ei ddosbarthu
  11. cofnodi didoli post yn y system wybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a dilyn yr holl reoliadau diogeledd data a gwybodaeth berthnasol yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol y diwydiant a sefydliadol wrth weithio mewn gwasanaethau post, a’ch cyfrifoldebau drosoch chi eich hun ac eraill
  2. y gweithdrefnau sefydliadol a’r canllawiau ar gyfer didoli post
  3. y mathau o bost y mae angen ei ddidoli â llaw
  4. y dulliau ar gyfer symud post o fathau gwahanol o gynwysyddion
  5. y risgiau ymdrin sydd yn gysylltiedig â didoli mathau gwahanol o bost
  6. sut i ddarllen a dehongli gwybodaeth ddosbarthu sydd wedi ei nodi ar y post
  7. sut i flaenoriaethu mathau gwahanol o wybodaeth ddosbarthu
  8. y camau i’w cymryd os na ellir darllen y wybodaeth
  9. eich gofynion sefydliadol yn ymwneud â chyflymder a chywirdeb ar gyfer didoli post â llaw
  10. y mathau o ofynion ymdrin neu ddidoli arbennig
  11. y mathau o broblemau y gellir dod ar eu traws wrth ddidoli post â llaw, a’r dulliau ar gyfer ymdrin â phroblemau gwahanol
  12. y mathau o risgiau diogelwch a diogeledd y gellir dod ar eu traws wrth ddidoli post â llaw
  13. yr arwyddion y gallai post gyflwyno risg diogelwch neu ddiogeledd
  14. y dulliau ar gyfer ymdrin ag eitemau post amheus neu beryglus
  15. y mathau o gynwysyddion neu gyfarpar storio eraill y dylid eu defnyddio ar gyfer mathau gwahanol o bost
  16. galluoedd y cynwysyddion sydd yn cael eu defnyddio
  17. y polisïau sefydliadol perthnasol ar gyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data
  18. y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal y rhain mewn perthynas â didoli post


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLMS150

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth

Cod SOC

9211

Geiriau Allweddol

gwasanaethau post; post; casglu; dosbarthu; llythyrau