Prosesu post trwy systemau awtomataidd
URN: SFLMS149
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Post
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2018
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesu post trwy systemau awtomataidd a ddefnyddir ar adegau gwahanol yn y broses ddidoli a dosbarthu gyffredinol.
Mae’r safon yn cynnwys gwirio a gosod yr offer ar gyfer prosesu sydd ei angen, llwytho’r post i mewn i gyfarpar y system awtomataidd, monitro gweithrediad y cyfarpar, a dadlwytho’r post, unwaith y mae wedi cael ei brosesu. Bydd angen i chi nodi unrhyw broblemau gyda’r cyfarpar post a chymryd y camau perthnasol.
Mae’r safon hon yn cynnwys gweithio ym mhob amgylchedd gwasanaeth post, yn cynnwys y Post Brenhinol, ac mae wedi ei hanelu at weithredwyr sydd yn gysylltiedig â gwasanaethau post ar bob lefel.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch perthnasol a bioddiogelwch a dilyn gweithdrefnau sefydliadol, bob amser, wrth weithio mewn gwasanaethau post
- cadarnhau bod y systemau awtomataidd yn barod ac yn ddiogel i gael eu defnyddio ar gyfer y mathau gwahanol o bost sydd yn cael ei brosesu
- ymdrin â’r post yn ddiogel i leihau’r risg o anaf i chi eich hun a staff eraill, neu niwed i’r post
- paratoi’r post ar gyfer ei brosesu, gan ddilyn cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd, mewn perthynas â defnyddio cyfarpar
- llwytho’r post yn gywir i mewn i’r systemau awtomataidd
- bwydo’r post trwy’r systemau awtomataidd ar y raddfa sydd yn angenrheidiol ar gyfer galluoedd y cyfarpar
- monitro cywirdeb a chyflymder y systemau awtomataidd yn rheolaidd, gan ymdrin ag unrhyw faterion sydd yn digwydd
- dadlwytho post o’r systemau awtomataidd i mewn i’r bwndeli a’r cynwysyddion cywir
- nodi ac ymateb i unrhyw broblemau gyda’r cyfarpar yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cofnodi’r gwaith o brosesu post yn y system wybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a chan ddilyn yr holl reoliadau diogeledd data a gwybodaeth perthnasol yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol y diwydiant a sefydliadol wrth weithio mewn gwasanaethau post, a’ch cyfrifoldebau drosoch chi eich hun ac eraill
- y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer prosesu post trwy systemau awtomataidd
- y mathau o systemau awtomataidd a ddefnyddir ar gyfer tasgau prosesu gwahanol
- y risgiau sydd yn gysylltiedig â phrosesu ac ymdrin â mathau gwahanol o bost
- y dulliau ar gyfer paratoi post ar gyfer mathau gwahanol o gyfarpar a phrosesu
- y dulliau gwahanol o lwytho a bwydo post i mewn i systemau awtomataidd
- galluoedd mathau gwahanol o gyfarpar a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y gweithdrefnau a’r systemau monitro a ddefnyddir gan eich sefydliad
- mesuriadau perfformiad peiriant y cynhyrchydd a sut i’w cofnodi
- y dulliau perthnasol o ddadlwytho mathau gwahanol o gyfarpar a’r cynwysyddion y dylid eu defnyddio ar gyfer y mathau o bost sydd yn cael eu prosesu
- ble i osod post ar ôl ei ddadlwytho yn barod ar gyfer y gyrchfan nesaf
- sut i adnabod problemau sydd yn gallu digwydd wrth ddefnyddio systemau awtomataidd a’r dulliau ar gyfer ymdrin â’r problemau hynny
- y polisïau sefydliadol perthnasol ar gyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLMS149
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu
Cod SOC
9211
Geiriau Allweddol
gwasanaethau post; post; casglu; dosbarthu; prosesu; llythyrau