Dilyn cyfarwyddiadau post a gwahanu post ar gyfer ei brosesu
URN: SFLMS147
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Post
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2018
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dilyn cyfarwyddiadau post a gwahanu post ar gyfer ei brosesu. Mae’n cynnwys darllen a deall cyfarwyddiadau sydd wedi eu hysgrifennu ar eitemau post. Mae hyn yn digwydd yn ystod nifer o gyfnodau yn ystod gwasanaethau post, nid wrth ddidoli yn unig. Mae’n cynnwys darllen a deall y wybodaeth ar y post er mwyn gallu ei broesu’n gywir, gan ddilyn y gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol.
Mae’r safon hefyd yn cynnwys gwahanu post yn fathau gwahanol, fel ei fod yn barod ar gyfer ei ddosbarthu ac y gall wedyn gael ei ddyrannu’n gynwysyddion gwahanol. Mae hefyd yn cynnwys nodi ac adrodd unrhyw broblemau gyda chyfarwyddiadau post a phrosesu.
Mae’r safon hon yn cynnwys gweithio ym mhob amgylchedd gwasanaeth post, yn cynnwys y Post Brenhinol, ac mae wedi ei anelu at weithredwyr sydd yn gysylltiedig â gwasanaethau post ar bob lefel.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol a dilyn gweithdrefnau sefydliadol, bob amser, wrth weithio mewn gwasanaethau post
- ymdrin â’r post yn ddiogel i leihau’r risg o anaf i staff a chwsmeriaid, neu niwed i’r post
- nodi post y mae angen triniaeth neu ddosbarthu arbenigol arno
- adnabod a chadarnhau y mathau o bost sydd yn cael ei wahanu ar gyfer ei brosesu
- datgelu cyfarwyddiadau post os yw’r rhain wedi eu cuddio neu’n aneglur, a dilyn gweithdrefnau sefydliadol yn ymwneud â phrosesu post gyda gwybodaeth anghyflawn
- nodi anghysondebau yn y cyfarwyddiadau post, a phennu pa rai ddylai gael blaenoriaeth
- nodi ac ymateb i unrhyw bost sydd yn cyflwyno risg diogelwch neu ddiogeledd, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- nodi gwybodaeth am gyrchfannau sydd wedi eu cynnwys yn y cyfarwyddiadau post
- gwahanu’r post yn unol â’r math a’r gyrchfan, a monitro llif post, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod y post yn cael ei ddyrannu a’i wahanu’n gynwysyddion yn barod ar gyfer prosesu
- nodi ac ymateb i unrhyw broblemau yn gwahanu post, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- cofnodi cyfarwyddiadau post a dulliau gwahanu yn y system wybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a dilyn unrhyw reoliadau diogeledd data a gwybodaeth perthnasol yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol y diwydiant a sefydliadol wrth weithio mewn gwasanaethau post, a’ch cyfrifoldebau drosoch chi eich hun ac eraill
- y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer y gweithgareddau sydd yn cael eu gwneud, mewn perthynas â dilyn cyfarwyddiadau post a gwahanu post ar gyfer ei brosesu
- y cyrchfannau perthnasol a’r lleoliadau daearyddol sydd wedi eu cynnwys gan eich sefydliad
- y mathau gwahanol o bost y mae angen triniaeth a dosbarthu arbenigol arno
- y mathau gwahanol o bost y mae angen eu gwahanu ar gyfer eu prosesu, a’r dulliau ar gyfer nodi’r rhain
- y risgiau diogelwch a diogeledd sydd yn gysylltiedig â gwahanu post
- y dangosyddion bod post yn cyflwyno risg diogelwch neu ddiogeledd
- y gweithdrefnau sefydliadol sydd yn ymwneud ag ymdrin ag eitemau post amheus neu beryglus
- y mathau o gyfarwyddiadau dosbarthu sydd yn cael eu harddangos ar bost
- y dulliau perthnasol ar gyfer datgelu cyfarwyddiadau post
- y mathau o gyfyngiadau ynghylch sut i ddatgelu cyfarwyddiadau, yn cynnwys deddfwriaeth berthnasol ar ddiogelu data
- y mathau o anghysondebau mewn cyfarwyddiadau dosbarthu post a geir gyda mathau gwahanol o bost
- y flaenoriaeth i’w rhoi i fathau gwahanol o wybodaeth a chyfarwyddiadau
- y camau i’w cymryd os na ellir cael gwybodaeth i alluogi post i gael ei brosesu
- y mathau o gynwysyddion y dylid eu defnyddio ar gyfer mathau gwahanol o bost
- llif post yn y sefydliad a’r dulliau ar gyfer monitro hyn
- y problemau y gellir dod ar eu traws wrth wahanu post a’r dulliau sydd yn eu lle ar gyfer ymdrin â’r rhain
- y polisïau sefydliadol perthnasol ar gyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal cofnodion, yn cynnwys y math o ddogfennau sydd eu hangen ar gyfer mathau gwahanol o bost a chyrchfan, a’r gofynion cofnodi a sganio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLMS147
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu
Cod SOC
9211
Geiriau Allweddol
gwasanaethau post; post; casglu; dosbarthu; prosesu; llythyrau