Casglu post
URN: SFLMS146
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Post
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chasglu’r post o fannau casglu gwahanol.
Mae’n cynnwys cadarnhau amserlenni casglu, casglu’r post, a sicrhau post mewn cynwysyddion. Mae’r rôl yn cynnwys nodi unrhyw broblemau gydag eitemau post, a chymryd y camau angenrheidiol i ddatrys materion a allai effeithio ar gasglu.
Mae’r safon hon yn cynnwys gweithio ym mhob amgylchedd gwasanaeth post, yn cynnwys y Post Brenhinol, ac mae wedi ei anelu at weithredwyr post ar bob lefel sydd yn gysylltiedig â chasglu post. Gallai hefyd fod yn berthnasol i yrwyr a chynllunwyr trafnidiaeth sydd yn casglu ac yn cludo post i ystod eang o gyrchfannau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol, a dilyn gweithdrefnau sefydliadol, bob amser, wrth weithio mewn gwasanaethau post
- cadarnhau manylion yr amserlen gasglu gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- casglu post o’r mannau casglu, yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni, ac yn y cynwysyddion cywir
- gweithredu cyfarpar yn y mannau casglu yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
- nodi ac ymateb i unrhyw broblemau gyda chasgliadau ac adrodd am faterion gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- ymateb i unrhyw eitemau post amheus neu beryglus gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- gwneud y post yn ddiogel yn y cynwysyddion priodol
- rhoi’r wybodaeth berthnasol i gwsmeriaid a staff am y gwasanaeth casglu, gan ddilyn gweithdrefnau cyfathrebu sefydliadol
- cofnodi’r gwaith o gasglu post yn y system wybodaeth a chofnodi berthnasol, sganio a chofnodi post yn y cynwysyddion cywir, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a dilyn yr holl reoliadau diogeledd data a gwybodaeth perthnasol yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogeledd perthnasol y diwydiant a sefydliadol wrth weithio mewn gwasanaethau post, a’ch cyfrifoldebau drosoch chi eich hun ac eraill
- unrhyw weithdrefnau sefydliadol perthnasol yn ymwneud â chasglu post
- yr amserlenni casglu perthnasol, yn cynnwys llwybrau ac amseru
- y mathau o bost y mae angen eu casglu
- y mathau a lleoliadau mannau casglu gwahanol ar gyfer post a ddefnyddir yn eich sefydliad
- y mathau o gyfarpar a mecanweithiau mewn mannau casglu
- y mathau o broblemau y gellir dod ar eu traws wrth gasglu post a sut i adrodd am broblemau, gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- y mathau o risgiau diogelwch a diogeledd wrth gasglu post a sut i adrodd am y rhain
- y dulliau o adrodd am, ynysu neu symud eitemau post amheus neu beryglus
- y mathau o gynwysyddion i’w defnyddio ar gyfer mathau gwahanol o bost
- y mathau o wasanaethau casglu sydd ar gael ar gyfer cwsmeriaid
- y polisïau sefydliadol perthnasol ar gyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal cofnodion, yn cynnwys gofynion sganio a chofnodi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLMS146
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu
Cod SOC
9211
Geiriau Allweddol
gwasanaethau post; post; casglu; dosbarthu; prosesu; llythyrau