Cludo post
URN: SFLMS145
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gwasanaethau Post
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chludo post i gyrchfannau gwahanol, wrth gasglu, dosbarthu, neu brosesu. Nid yw hyn yn cynnwys gyrru neu weithredu’r cerbyd ei hun, ond mae’n cynnwys gweithgareddau’n ymwneud â thrin a diogelu’r post tra’i fod yn cael ei gludo i’r cyrchfannau gwahanol.
Mae’r safon hon yn cynnwys cludo post ym mhob amgylchedd gwasanaeth post, yn cynnwys y Post Brenhinol, ac mae wedi ei anelu at y rheiny sydd yn cludo post i’r cyrchfannau gwahanol yn y cerbydau priodol. Gallai ymwneud â hyb trafnidiaeth, a chynnwys llwytho a dadlwytho post.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol a dilyn gweithdrefnau sefydliadol, bob amser, wrth weithio mewn gwasanaethau post
- nodi’r mathau o bost sydd yn cael eu cludo
- dilysu bod post yn cael ei lwytho a’i ddadlwytho’n gywir mewn cerbyd sydd yn addas ar gyfer y post sydd yn cael ei gludo
- cludo’r post gan ddefnyddio’r cerbydau, y cyfarpar a’r cynwysyddion cywir, yn unol â’r gofynion sefydliadol a chyfreithiol
- dilyn gweithdrefnau sefydliadol a defnyddio’r cyfarpar i sganio a chofnodi post ar neu oddi ar y cerbyd er mwyn galluogi olrhain ar y llwybr
- cludo’r post i’r cyrchfannau cywir
- cadarnhau eich bod wedi defnyddio dulliau a gymeradwyir yn sefydliadol i ddiogelu’r post wrth ei gludo
- nodi ac ymateb i unrhyw broblemau cludo
- adrodd am unrhyw eitemau post amheus neu beryglus wrth y person priodol, a chymryd camau gan ddilyn y gweithdrefnau sefydliadol
- cofnodi cludo post yn y system wybodaeth a chofnodi perthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a dilyn yr holl reoliadau diogeledd data a gwybodaeth perthnasol yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol wrth weithio mewn gwasanaethau post, a’ch cyfrifoldebau drosoch chi eich hun ac eraill
- y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer cludo post, yn cynnwys gofynion gweithdrefnol ar gyfer partneriaid dosbarthu
- y cyrchfannau perthnasol a’r lleoliadau daearyddol sydd wedi eu cynnwys gan eich sefydliad
- y gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol ar gyfer cludo post
- y mathau gwahanol o gynwysyddion a ddefnyddir gyda mathau penodol o bost
- eich gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer llwytho a dadlwytho mathau gwahanol o bost
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r mathau o gyfarpar a ddefnyddir i sganio a chofnodi post ar y cerbyd ac oddi arno, a ddefnyddir fel rhan o’r olrhain ar y llwybr
- y mathau o gerbydau a chyfarpar wedi ei awdurdodi sydd yn addas ar gyfer cludo mathau gwahanol o bost
- cyfyngiadau cerbyd ar bwysau a maint llwythi, yn cynnwys systemau a dulliau atal llwyth
- eich cyfrifoldebau sefydliadol ar gyfer diogelu cyflwr post, a’r rhagofalon y gellir eu cymryd i gyflawni hyn
- y mathau o amodau a sylweddau a allai fod yn niweidiol sydd yn effeithio ar gludo post
- y dulliau a ddefnyddir i ymdrin â phroblemau gwahanol a allai ddigwydd wrth gludo post
- y risgiau diogelwch a diogeledd sydd yn gysylltiedig â chludo post
- y dulliau perthnasol a ddefnyddir i adrodd neu symud eitemau post amheus neu beryglus
- y polisïau sefydliadol perthnasol ar gyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLMS145
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu
Cod SOC
9211
Geiriau Allweddol
gwasanaethau post; post; casglu; dosbarthu; prosesu; llythyrau