Cynllunio llwybrau ar gyfer casglu a dosbarthu post
URN: SFLMS144
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Post
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2018
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio llwybrau ar gyfer casglu a dosbarthu post i gyrchfannau gwahanol. Mae hyn yn cynnwys llwybrau sydd yn fewnol i’r busnes didoli post a’r rheiny sydd yn allanol i’r adeilad didoli, ac i gwsmeriaid allanol.
Bydd y rôl yn rhoi cyfrif am unrhyw ffactorau sydd yn gallu effeithio ar ddosbarthu’r post, yn cynnwys cynllunio llwybrau, a gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau a’r costau sydd ar gael. Dylai cynllunio llwybrau gael ei gyfathrebu’n glir er mwyn i gyfarwyddiadau allu cael eu dilyn yn gywir gan staff mewnol, is-gontractwyr a phartneriaid dosbarthu.
Mae’r safon hon yn cynnwys staff sydd yn gweithio ym mhob amgylchedd gwasanaeth post, yn cynnwys y Post Brenhinol. Mae rôl cynllunio llwybrau yn rôl arbenigol, yn aml yn cael ei wneud gan unigolion nad ydynt yn rhan o’r rolau gweithrediadau post arferol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch a bioamrywiaeth perthnasol a dilyn gweithdrefnau sefydliadol mewn perthynas â chynllunio llwybrau ar gyfer casglu a dosbarthu post
- cael manylion gofynion casglu a dosbarthu, yn cynnwys unrhyw gyfarwyddiadau arbennig neu geisiadau gan gleientiaid, ac ymgorffori’r rhain wrth gynllunio llwybrau
- cael manylion y mathau o bost sydd yn cael eu casglu a’u dosbarthu
- nodi eitemau post sydd angen eu trin mewn ffordd arbennig
- cynllunio’r llwybrau a’r drefn orau ar gyfer casglu a dosbarthu’r post
- nodi ac ymateb i unrhyw broblemau ar hyd y llwybrau a gynlluniwyd
- dilysu bod costau ac adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol wrth gasglu a dosbarthu post
- cofnodi llwybrau sydd wedi eu cynllunio yn y system wybodaeth a chofnodi, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a dilyn yr holl reoliadau diogeledd data a gwybodaeth perthnasol yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch y diwydiant a sefydliadol perthnasol wrth weithio mewn gwasanaethau post, a’ch cyfrifoldebau ar eich cyfer chi ac eraill
- y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol dros gynllunio llwybrau ar gyfer casglu a dosbarthu post
- y dulliau cynllunio gwahanol ar gyfer pennu llwybrau i gwsmeriaid mewnol ac allanol
- y wybodaeth sydd yn ofynnol er mwyn cynllunio llwybrau ar gyfer casglu a dosbarthu post
- y ffactorau sy’n effeithio ar gasglu a dosbarthu post
- y mathau o bost y mae angen eu casglu a’u dosbarthu a’r llwybrau a’r cyrchfannau perthnasol
- y mathau o ofynion ymdrin arbennig ar gyfer mathau gwahanol o bost
- y problemau y gellir dod ar eu traws a’r dulliau ar gyfer unioni unrhyw faterion neu broblemau
- perthnasedd y defnydd effeithiol o adnoddau a chostau wrth gynllunio llwybrau ar gyfer casglu a dosbarthu post
- y polisïau sefydliadol perthnasol ar gyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLMS144
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu
Cod SOC
9211
Geiriau Allweddol
gwasanaethau post; post; casglu; dosbarthu; prosesu; llythyrau