Ymdrin â phost
URN: SFLMS142
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Post
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag ymdrin â phost yn y gwaith ac mae’n cynnwys casglu, prosesu neu ddosbarthu.
Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn diogelu eich hun, staff eraill, a’ch bod yn ceisio cynnal ei gyflwr trwy gydol y prsesau amrywiol. Bydd angen i chi ddelio gydag unrhyw broblemau a allai ddigwydd tra’n ymdrin â’r post hefyd.
Mae’r safon hon yn cynnwys gweithio ym mhob amgylchedd gwasanaeth post, yn cynnwys y Post Brenhinol, ac mae wedi ei hanelu at weithredwyr sydd yn gysylltiedig â gwasanaethau post ar bob lefel.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol a dilyn gweithdrefnau sefydliadol bob amser, wrth weithio mewn gwasanaethau post
- nodi’r mathau o bost sydd yn cael eu trin, h.y. â llaw neu’n fecanyddol
- defnyddio’r cyfarpar cywir i gynorthwyo’r gwaith o ymdrin â’r post
- ymdrin â phost mewn ffordd sy’n lleihau ei ddeunydd pacio a’i gyflwr ac yn diogelu post rhag unrhyw amodau a allai fod yn niweidiol
- storio’r post yn y cynwysyddion cywir, a’i osod yn y lleoliadau cywir
- cynnal cyfrinachedd cwsmeriaid sydd yn anfon neu’n derbyn eitemau post, gan ddilyn protocol sefydliadol
- nodi ac ymateb i unrhyw broblemau sydd yn digwydd tra’n ymdrin â’r post
- adrodd am unrhyw amheuon neu eitemau post peryglus wrth y staff perthnasol, a chymryd y camau angenrheidiol gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- cofnodi gwybodaeth am ymdrin â phost yn y system wybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a dilyn yr holl reoliadau diogeledd data a gwybodaeth perthnasol yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol y diwydiant a sefydliadol wrth weithio mewn gwasanaethau post, a’ch cyfrifoldebau ar gyfer eich hun ac eraill
- y ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â gwasanaethau post
- y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol dros y gweithgareddau sydd yn cael eu gwneud wrth ymdrin â phost
- y mathau gwahanol o bost i gael ei drin
- y mathau o gyfarpar a ddefnyddir i drin, codi a throsglwyddo mathau gwahanol o bost a ddefnyddir yn eich sefydliad
- y mathau o becynnau a ddefnyddir gyda mathau gwahanol o bost
- y niwed y gellir ei achosi i ddeunydd pacio o brosesau ymdrin â phost gwahanol
- y mathau o gynwysyddion y gellir eu defnyddio gyda mathau penodol o bost
- lleoliadau cynwysyddion gwag a llawn
- y lefelau llenwi a argymhellir ar gyfer cynwysyddion
- yr amodau storio gwahanol ar gyfer post a pha amodau niweidiol posibl sydd yn gallu effeithio ar ansawdd post
- y mathau o broblemau y gellir dod ar eu traws wrth ymdrin â phost, a’r dulliau ar gyfer delio gyda’r problemau gwahanol hynny
- y risgiau diogelwch a diogeledd, a’r dulliau o ymdrin ag eitemau post amheus neu beryglus
- y polisïau sefydliadol perthnasol ar gyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLMS142
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu
Cod SOC
9211
Geiriau Allweddol
gwasanaethau post; post; casglu; dosbarthu; prosesu; llythyrau