Cyfrannu at gynnal perthnasoedd gwaith mewn gwasanaethau post
URN: SFLMS141
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Post
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2018
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at gynnal perthnasoedd gwaith mewn gwasanaethau post, ac yn cynnwys gweithio gyda staff eraill, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu.
Mae’n bwysig eich bod yn ymateb i geisiadau gan staff a chwsmeriaid ac yn darparu gwybodaeth i’w cynorthwyo. Bydd angen i chi ddatblygu a chynnal perthnasoedd gwaith effeithiol. Mae’r rôl yn gofyn i chi weithio o fewn terfynau eich cyfrifoldebau eich hun ac adrodd am unrhyw broblemau gyda pherthnasoedd gwaith wrth eich rheolwr uniongyrchol.
Mae’r safon hon yn cynnwys gweithio ym mhob amgylchedd gwasanaethau post, yn cynnwys y Post Brenhinol, ac mae wedi ei hanelu at weithredwyr sydd yn gysylltiedig â gwasanaethau post ar bob lefel.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cydymffurfio â’r gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol a dilyn gweithdrefnau sefydliadol bob amser wrth weithio mewn gwasanaethau post
- parchu amrywiaeth hawliau a chredoau yr holl staff, cwsmeriaid a’r partneriaid dosbarthu mewn gwasanaethau post, yn cynnwys y rheiny sy’n gweithio’n uniongyrchol i’r sefydliad, neu o dan gontract iddo
- rhoi cymorth i eraill o fewn graddfeydd amser y cytunwyd arnynt, gofynion contract a’ch rôl a’ch cyfrifoldebau eich hun
- darparu’r wybodaeth gywir i staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
- cyfathrebu gyda staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu mewn ffordd sydd yn cynnal perthnasoedd gwasanaeth a chontract
- cyfrannu at fentrau busnes a gwella ansawdd
- cynnal prthnasoedd gwaith a chynrychioli’r sefydliad, gan ddilyn gofynion sefydliadol ar gyfer ymddangosiad ac ymddygiad
- cwblhau gweithgareddau gwaith o fewn rôl eich swydd a chael cymorth ar gyfer gweithgareddau y tu hwnt i’ch cyfrifoldeb
- rhoi cymorth i gydweithwyr yn ystod hyfforddiant staff a gweithgareddau datblygu
- nodi ac ymateb i faterion sydd yn digwydd gyda’ch gweithgareddau gwaith a chael cymorth lle bo angen
- adrodd a chofnodi’r holl faterion yn y system wybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a dilyn yr holl reoliadau diogelwch data a gwybodaeth yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gofynion iechyd a diogelwch a bioddiogelwch perthnasol y diwydiant a’r sefydliad wrth weithio mewn gwasanaethau post, a’ch cyfrifoldebau drosoch chi eich hun ac eraill
- y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer gweithgareddau gwasanaeth post sydd yn cael eu gwneud
- y polisïau deddfwriaeth a sefydliadol perthnasol yn ymwneud ag amrywiaeth yn y gweithle
- y mathau o geisiadau a wneir gan staff eraill, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
- y math o gymorth a gwybodaeth y gellir eu darparu gan staff eraill, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
- y ffactorau sy’n effeithio ar berthnasoedd gwaith yn rôl eich swydd
- y gweithdrefnau sefydliadol ynghylch sut i gyfathrebu â staff eraill, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
- y gofynion sefydliadol ar gyfer ymddangosiad ac ymddygiad, yn cynnwys y codau gwisg
- sut i gyfrannu at fentrau busnes a gwella ansawdd yn eich sefydliad
- sut i gysylltu â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
- canlyniadau gweithio y tu hwnt i’ch lefel cymhwysedd eich hun
- y cyfleoedd hyfforddiant a datblygu a ddarperir gan y sefydliad
- y mathau o faterion y gellir dod ar eu traws gyda pherthnasoedd gwaith mewn gwasanaethau post a sut i ddelio â nhw
- y polisïau sefydliadol perthnasol ar gyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLMS141
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu
Cod SOC
9211
Geiriau Allweddol
gwasanaethau post; post; casglu; dosbarthu; prosesu; llythyrau