Cyfrannu at iechyd, diogelwch a diogeledd mewn gwasanaethau post
URN: SFLMS140
Sectorau Busnes (Suites): Gwasanaethau Post
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2018
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrannu at iechyd, diogelwch a diogeledd mewn gwasanaethau post. Mae’n cynnwys dilyn y canllawiau iechyd a diogelwch perthnasol, ac yn pwysleisio bod eich diogelwch chi a phobl eraill yn hollbwysig. Gallai fod angen i chi nodi amrywiaeth o risgiau iechyd, diogelwch a diogeledd ac ymateb i’r rhain yn gyflym. Mewn argyfwng, mae disgwyl i chi sicrhau bod y cymorth perthnasol yn cael ei alw, a bod y gwasanaethau brys yn cael eu galw, lle bo angen.
Mae risgiau diogelwch post yn hollbwysig a gallant gynnwys gwrthrychau dieithr, amheuaeth o fomiau a dyfeisiadau a sylweddau peryglus eraill. Mae’r staff i gyd yn gyfrifol am fonitro post a phecynnau, ac adrodd ar unrhyw beth amheus ar unwaith, gan ddilyn protocol sefydliadau.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am gofnodi unrhyw ddigwyddiadau iechyd, diogelwch a diogeledd.
Mae’r safon hon yn cynnwys gweithio ym mhob amgylchedd gwasanaeth post, yn cynnwys y Post Brenhinol, ac mae wedi ei hanelu at weithredwyr sydd yn gysylltiedig â gwasanaethau post ar bob lefel.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfrannu at gynnal iechyd, diogelwch a diogeledd trwy ddilyn yr holl ofynion perthnasol a’r gweithdrefnau sefydliadol bob amser wrth weithio mewn gwasanaethau post
- nodi eitemau post a allai gyflwyno risg i iechyd, diogelwch a diogeledd
- dilyn gweithdrefnau sefydliadol a rhagofalon cymeradwy i nodi a lleihau risgiau i iechyd, diogelwch a diogeledd
- monitro post i nodi unrhyw risgiau iechyd, diogelwch a diogeledd posibl, ac adrodd am y rhain yn fewnol
- dilyn y canllawiau perthnasol ar gyfer arferion gwaith diogel sefydliadol, yn cynnwys y defnydd cywir o gyfarpar diogelu personol (PPE) a chyfarpar trin deunyddiau
- cymryd camau ar unwaith i atal niwed i chi eich hun ac eraill pan fydd risgiau iechyd, diogelwch a diogeledd posibl yn cael eu nodi
- ymateb i ddigwyddiadau ac argyfyngau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- adrodd a chofnodi pob digwyddiad iechyd, diogelwch a diogeledd ar y system wybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a dilyn yr holl reoliadau diogeledd data a gwybodaeth perthnasol yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y cyfrifoldebau a’r gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n cyfrannu at gynnal iechyd, diogelwch a diogeledd mewn gwasanaethau post
- goblygiadau peidio â chydymffurfio â’r rheoliadau uniondeb a diogeledd post
- y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer lleihau risgiau iechyd, diogelwch a diogeledd mewn gwasanaethau post
- eich cyfrifoldebau eich hun i ddiogelu eich hun ac eraill mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a diogeledd yn eich sefydliad
- pwysigrwydd blaenoriaethu iechyd, diogelwch a diogeledd a’r rhagofalon perthnasol y gellir eu defnyddio a’u cymhwyso i wasanaethau post
- sut i nodi’r risgiau iechyd, diogelwch a diogeledd posibl yn ymwneud ag ardal waith eich gwasanaethau post
- y camau y dylid eu cymryd os oes risgiau i iechyd, diogelwch a diogeledd yn cael eu nodi
- y rhagofalon perthnasol a’r arferion gwaith diogel y gellir eu cymryd i atal anaf neu niwed
- y camau i’w cymryd mewn digwyddiad o argyfwng yn cynnwys y driliau a’r larymau diogelwch perthnasol a ddefnyddir yn y sefydliad
- y swyddogion cymorth cyntaf dynodedig sydd wedi eu hawdurdodi gan y sefydliad mewn perthynas â’ch ardal waith
- y polisïau sefydliadol perthnasol ar gyfrinachedd a deddfwriaeth diogelu data
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLMS140
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu
Cod SOC
9211
Geiriau Allweddol
gwasanaethau post; post; casglu; dosbarthu; prosesu; llythyrau