Lleihau effaith amgylcheddol gweithrediadau logisteg
URN: SFLLO41
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â lleihau effaith amgylcheddol gweithrediadau logisteg. Mae’n cynnwys monitro’r effaith amgylcheddol a nodi ffyrdd o leihau’r effaith honno. Mae hefyd yn cynnwys monitro effeithlonrwydd ynni a lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithredaidau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth, neu anfon cludiant ymlaen. Gallai’r safon fod yn berthnasol i’r rheiny sy’n gofalu am nifer o staff a chynnwys cyfrifoldeb rheolwr llinell.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi’r polisïau a’r arferion amgylcheddol, cynaliadwyedd ac ailgylchu sefydliadol sy’n berthnasol i weithrediadau logisteg
- gweithredu polisi ac arferion amgylcheddol, cynaliadwyedd ac ailgylchu’r sefydliad, a chadarnhau eu bod yn cael eu hyrwyddo i bob cydweithiwr yn eich sefydliad
- monitro’r ynni a’r deunyddiau a ddefnyddir i gyflwyno gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- asesu effaith amgylcheddol posibl gweithrediadau logisteg eich sefydliad cyn iddynt gael eu gweithredu
- monitro’r effaith y mae gweithrediadau logisteg presennol eich sefydliad yn ei gael ar yr amgylchedd
- nodi ac awgrymu ffyrdd o leihau unrhyw effeithiau niweidiol posibl gweithrediadau logisteg eich sefydliad ar yr amgylchedd
- nodi ffyrdd o leihau, ailddefnyddio neu ailgylchu deunyddiau a ddefnyddir mewn gweithrediadau logisteg i leihau’r effaith y mae eich sefydliad yn ei gael ar yr amgylchedd
- nodi ffyrdd o ddefnyddio ynni a deunyddiau’n fwy effeithlon ar gyfer gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad i leihau eu heffaith amgylcheddol
- gwaredu deunyddiau dros ben o weithrediadau logisteg eich sefydliad, yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- briffio partneriaid ac isgontractwyr ar eu cyfrifoldebau amgylcheddol wrth weithio gyda’ch sefydliad
- cofnodi gwaith a wnaed yn y system gwybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol wrth fonitro effaith amgylcheddol gweithrediadau logisteg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mesurau diogelu amgylcheddol a ddefnyddir yn eich sefydliad a’r ffordd y mae’r rhain yn berthnasol i weithrediadau logisteg
- sut i ddewis a defnyddio systemau i asesu effaith amgylcheddol gweithrediadau logisteg eich sefydliad
- y materion amgylcheddol sydd yn effeithio ar y diwydiant logisteg
- polisi amgylcheddol ac ailgylchu eich sefydliad a sut mae hyn yn effeithio ar gost gweithrediadau logisteg
- y gweithdrefnau deddfwriaeth, rheoliadau a sefydliadol perthnasol sydd yn berthnasol i waredu deunyddiau dros ben
- sut i ailgylchu a gwaredu deunyddiau dros ben i leihau effaith y sefydliad ar yr amgylchedd
- y ffyrdd y gellir gwella defnydd eich sefydliad o ddeunyddiau i leihau’r effaith amgylcheddol mewn gweithrediadau logisteg
- y ffyrdd y gellir gwella effeithlonrwydd ynni eich sefydliad i leihau’r effaith amgylcheddol mewn gweithrediadau logisteg
- y cyrff rheoliadol perthnasol ar gyfer gweithrediadau logisteg a’u gofynion cydymffurfio
- y rolau, cyfrifoldebau, a’r systemau rheoli sy’n berthnasol i weithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- y systemau gwybodaeth a chofnodi, systemau monitro a’r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol wrth fonitro effaith amgylcheddol gweithrediadau logisteg
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amgylchedd: yr amgylchedd naturiol, h.y. tir, aer a môr
Effaith amgylcheddol: unrhyw newid i’r amgylchedd yn deillio o weithgareddau, cynnyrch neu wasanaethau unigolyn neu sefydliad
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth, arferion gweithio, gweithdrefnau gweithredu, canllawiau’r diwydiant
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLLO41
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
9251
Geiriau Allweddol
amgylchedd; effaith; tanwydd; gwastraff; gwaredu; halogiad; llygredd; risg