Gwella perfformiad gweithrediadau logisteg
URN: SFLLO40
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Logisteg
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gwella perfformiad gweithrediadau logisteg, yn cynnwys nodi ardaloedd ar gyfer gwella perfformiad ac ymgynghori â chydweithwyr i asesu a gwerthuso effaith y gwelliannau hynny.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth, neu anfon cludiant ymlaen. Gallai’r safon fod yn berthnasol i’r rheiny sy’n gofalu am nifer o staff a chynnwys cyfrifoldeb rheolwr llinell.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gwybodaeth ddilys a dibynadwy ar berfformiad presennol gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- nodi meysydd posibl ar gyfer gwella mewn gweithrediadau logisteg a chytuno gyda chydweithwyr ar y gwelliant gofynnol
- ymchwilio, dadansoddi ac asesu dulliau posibl o wella perfformiad fyddai o fudd i’r sefydliad a’i weithrediadau logisteg
- argymell y dulliau mwyaf addas ar gyfer gwella perfformiad mewn gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- nodi’r meini prawf y gellir eu defnyddio i werthuso’r effaith ar eich sefydliad, a’r rhanddeiliaid perthnasol, wrth gymhwyso’r dulliau i wella perfformiad
- monitro’r effeithiau ar y sefydliad, a’r rhanddeiliaid perthnasol, wrth gymhwyso’r dulliau gwella perfformiad dros y cyfnod gofynnol o amser
- gwerthuso effaith cymhwyso’r dulliau gwella perfformiad ar ansawdd yn eich sefydliad
- nodi unrhyw broblemau wrth gymhwyso dulliau gwella perfformiad, a chymryd y camau angenrheidiol i’w datrys
- cofnodi gwaith a wnaed yn y system gwybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol mewn gweithrediadau logisteg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i fesur ac asesu perfformiad presennol eich sefydliad mewn gweithrediadau logisteg
- sut i ganfod ffynonellau gwybodaeth am ddulliau i wella perfformiad mewn gweithrediadau logisteg
- yr ymagweddau gwella a’r dulliau dadansoddi a ddefnyddir yn y diwydiant logisteg
- pa ddulliau gwella perfformiad a ddefnyddir yn eich sefydliad
- sut i fonitro a gwerthuso’r effeithiau ar eich sefydliad a’r rhanddeiliaid perthnasol wrth gymhwyso dulliau i wella perfformiad gweithrediadau logisteg
- manteision, anfanteision ac unrhyw broblemau posibl wrth gymhwyso dulliau gwella perfformiad gwahanol
- y cyrff rheoliadol perthnasol ar gyfer gweithrediadau logisteg a’u gofynion cydymffurfio
- rolau, cyfrifoldebau, a systemau rheoli sy’n berthnasol i weithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- y systemau gwybodaeth a chofnodi, y systemau monitro a’r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol ar gyfer gwella perfformiad mewn gweithrediadau logisteg
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Meysydd ar gyfer gwella: prosesau, dulliau gweithio, arferion gweithio
Dulliau gwella: technoleg, cyfarpar mecanyddiol, staffio, hyfforddiant, dyluniad gorsaf waith, gweithdrefnau a gweithdrefnol
Problemau yn cymhwyso: effaith ar adrannau/gweithgareddau eraill, cost, anghenion hyfforddiant, staffio, dulliau cyfathrebu
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth, arferion gweithio, gweithdrefnau gweithredu, canllawiau’r diwydiant [Noder: nid yw’r eirfa wedi ei rhifo fel arfer. Efallai y byddwch eisiau rhoi’r ychwanegiadau yn nhrefn yr wyddor: Meysydd ar gyfer gwella; Cydweithwyr, Amgylcheddol, cyfreithiol…; Dulliau gwella; Problemau’n cymhwyso…]
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLLO40
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
9251
Geiriau Allweddol
perfformiad; gwella; ansawdd; gwasanaeth