Cymhwyso’r defnydd o dechnoleg mewn gweithrediadau logisteg
URN: SFLLO39
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chymhwyso’r defnydd o dechnoleg mewn gweithrediadau logisteg. Mae’n cynnwys sicrhau bod cydweithwyr yn gwybod sut i ddefnyddio technoleg a nodi gwelliannau posibl yn y defnydd o dechnoleg.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth, neu anfon cludiant ymlaen. Gallai’r safon hon fod yn berthnasol i’r rheiny sy’n gofalu am nifer o staff ac sydd â chyfrifoldeb rheolwr llinell.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cadarnhau bod y defnydd o dechnoleg mewn gweithrediadau logisteg yn cael ei gymhwyso yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cadarnhau dealltwriaeth a chymhwysedd cydweithwyr yn gweithredu technoleg, a monitro ei ddefnydd diogel yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr a gweithdrefnau sefydliadol
- nodi unrhyw anghenion hyfforddiant sydd yn gysylltiedig â’r defnydd o dechnoleg a threfnu’r hyfforddiant perthnasol
- nodi unrhyw faterion sydd yn deillio o’r defnydd o dechnoleg mewn gweithrediadau logisteg a gweithredu i ymateb i’r rhain
- cadarnhau bod cynlluniau wrth gefn ar waith os bydd methiannau mewn technoleg mewn gweithrediadau logisteg yn digwydd
- dilyn amserlenni cynnal a chadw penodedig ar gyfer y dechnoleg a ddefnyddir mewn gweithrediadau logisteg, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr a gweithdrefnau sefydliadol
- nodi ffyrdd lle gall y defnydd o dechnoleg wella gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad eich hun
- ymchwilio a monitro technoleg newydd ac sydd yn dod i’r amlwg y gellir ei defnyddio i wella effeithlonrwydd gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gofynion gweithredu perthnasol wrth gymhwyso’r defnydd o dechnoleg a data mewn gweithrediadau logisteg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y dechnoleg ar gyfer gweithrediadau logisteg sydd ar gael ac yn cael ei defnyddio yn eich sefydliad
- cyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr a’r gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer defnyddio a chynnal a chadw’r dechnoleg a ddefnyddir gan eich sefydliad ar gyfer gweithrediadau logisteg
- y dulliau ar gyfer sicrhau bod y dechnoleg yn cael ei defnyddio yn ddiogel ac yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchwyr a gweithdrefnau sefydliadol
- sut i nodi ac ymateb i’r anghenion hyfforddiant sydd yn gysylltiedig â’r defnydd o dechnoleg yn eich sefydliad
- sut i ddyfeisio a gweithredu ffyrdd o ymateb i unrhyw fethiannau mewn technoleg mewn gweithrediadau logisteg
- y rolau, y cyfrifoldebau a’r systemau rheoli sydd yn gysylltiedig â gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- y camau i’w cymryd pan fydd materion yn cael eu nodi sydd yn deillio o’r defnydd o dechnoleg mewn gweithrediadau logisteg
- sut i ymchwilio i’r datblygiadau diweddaraf mewn technoleg mewn gweithrediadau logisteg
- goblygiadau newidiadau mewn technoleg a’r costau i’r sefydliad
- y cyrff rheoliadol perthnasol ar gyfer gweithrediadau logisteg a’u gofynion cydymffurfio yn ymwneud â’r defnydd o dechnoleg gan eich sefydliad
- y systemau gwybodaeth a chofnodi, systemau monitro a’r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch, diogelu data a dadansoddi a gweithredu perthnasol yn ymwneud â’r defnydd o dechnoleg mewn gweithrediadau logisteg
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Materion: prinder hyfforddiant, camweithio, rhaglenni atgyweirio
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau trafnidiaeth, arferion gwaith, gweithdrefnau gweithredu, canllawiau’r diwydiant
Technoleg: systemau rheoli stoc, systemau rheoli warws,
cyfarpar codi ac ymdrin, offer cynllunio llwybrau, meddalwedd cyfrifiadur, cyfarpar Amserlennu Llwybrau Cerbydau gyda Chyfrifiadur (CVRS)
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLLO39
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
9251
Geiriau Allweddol
technoleg; cynnal a chadw; systemau; gwybodaeth