Nodi ac asesu problemau mewn gweithrediadau logisteg
URN: SFLLO38
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â nodi ac asesu problemau mewn gweithrediadau logisteg a defnyddio profiad blaenorol i ddatrys problemau. Mae hyn yn cynnwys nodi’r ymateb mwyaf priodol a monitro ei effaith.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon cludiant ymlaen. Gallai’r safon fod yn berthnasol i’r rheiny sy’n gofalu am nifer o staff a chynnwys cyfrifoldebu rheolwr llinell.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- datblygu gweithdrefnau ar gyfer nodi a datrys problemau mewn gweithrediadau logisteg
- adolygu problemau sydd wedi digwydd yn flaenorol mewn gweithrediadau logisteg, y ffactorau sydd wedi arwain atynt, a’r camau blaenorol a gymerwyd i’w datrys
- asesu effaith y problemau ar y gweithrediadau logisteg, a’r ffordd y mae cydweithwyr a’ch sefydliad wedi ymateb iddynt
- nodi’r gweithgareddau a’r adnoddau sydd yn ofynnol i ymateb i’r problemau a datblygu cynlluniau wrth gefn
- hysbysu’r holl gydweithwyr perthnasol am y cynlluniau wrth gefn, a rhoi cyngor ac arweiniad ar eu gweithredu
- cael adborth gan gydweithwyr ar y defnydd o’r cynlluniau wrth gefn
- adolygu effeithiolrwydd y cynlluniau wrth gefn, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- adolygu a diweddaru gweithdrefnau ar gyfer nodi a datrys problemau mewn gweithrediadau logisteg
- cofnodi gwaith a wnaed yn unol âr system wybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud ag ymateb i broblemau mewn gweithrediadau logisteg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o broblemau sydd yn gallu digwydd gyda gweithrediadau logisteg gwahanol a sut i ddatblygu gweithdrefnau i’w nodi a’u datrys
- y ffactorau gweithredol a allai arwain at broblemau mewn gweithrediadau logisteg
- sut i asesu problemau blaenorol mewn gweithrediadau logisteg
- sut i asesu effaith y mae’r problemau wedi eu cael ar weithrediadau logisteg, a sut gwnaeth cydweithwyr a’r sefydliad ymateb iddynt
- sut i ddefnyddio dulliau cynllunio wrth gefn i greu cynlluniau i ymateb i broblemau mewn gweithrediadau logisteg
- sut i ddefnyddio dulliau asesu risg a phwy sy’n gyfrifol am wneud newidiadau i arferion yn y sefydliad
- sut i ddatrys problemau sydd yn digwydd dro ar ôl tro mewn gweithrediadau logisteg
- y cyrff rheoliadol perthnasol ar gyfer gweithrediadau logisteg a’u gofynion cydymffurfio
- y rolau, cyfrifoldebau a’r systemau rheoli sy’n berthnasol i weithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- sut i fonitro ac adolygu effeithiolrwydd cynlluniau wrth gefn i ymateb i broblemau mewn gweithrediadau logisteg
- y systemau gwybodaeth a chofnodi, y systemau monitro a’r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud ag ymateb i broblemau mewn gweithrediadau logisteg
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Problemau: argaeledd stoc, argaeledd trafnidiaeth oedi oherwydd y llwybr, amseru afrealistig, prinder gwybodaeth, dogfennau coll, torri i lawr, damweiniau
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth; allanol
Adnoddau: systemau rheoli stoc, systemau rheoli warws, dogfennau, mathau o drafnidiaeth, gweithlu, telemateg, cyfarpar codi ac ymdrin, offer cynllunio llwybrau, meddalwedd cyfrifiadur, cyfarpar monitro cerbydau
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau trafnidiaeth, arferion gwaith, gweithdrefnau gweithredu, canllawiau’r diwydiant
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLLO38
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
ymateb; cynllun wrth gefn; cynlluniau wrth gefn; problemau; newid