Amserlennu gweithrediadau logisteg i fodloni gofynion cwsmeriaid
URN: SFLLO36
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Rheoli Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag amserlennu gweithrediadau logisteg i fodloni gofynion cwsmeriaid. Mae’n cynnwys nodi’r math o weithredu, cynllunio, dulliau amserlennu a datrys problemau gyda’r amserlen sydd eu hangen. Gallai fod yn berthnasol i amserlennu cerbydau, amserlennu gyrwyr, amserlenni cludiant a chynlluniau teithiau. Yn y diwydiant gweithrediadau logisteg heddiw, gallai amserlennu’r diwydiant gynnwys defnydd helaeth o dechnoleg fel Amserlennu Llwybr Cerbyd ar Gyfrifiadur (CVRS).
Gallai’r safon hefyd gynnwys materion cynllunio fel costau, asesu risg, a chyfathrebu gyda chwsmeriaid i reoli materion.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, swyddfeydd trafnidiaeth neu anfon cludiant ymlaen. Gallai’r safon fod yn berthnasol i’r rheiny sy’n gofalu am nifer o staff ac â chyfrifoldeb rheolwr llinell.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau’r gweithrediadau logisteg sydd eu hangen i fodloni gofynion cwsmeriaid
- cytuno gydag amseru a therfynau amser cwsmeriaid ar gyfer darparu’r gweithrediadau logisteg, yn unol â chytundebau lefel gwasanaeth
- amserlennu gweithrediadau logisteg trwy gymhwyso dulliau, offer a thechnoleg amserlennu a ddefnyddir yn y sefydliad a dilyn gweithdrefnau sefydliadol
- pennu’r adnoddau logisteg a dilyniant tasgau sydd yn ofynnol i ddarparu’r gweithrediadau logisteg i fodloni gofynion cwsmeriaid
- adolygu’r ffactorau a’r risgiau a allai effeithio ar yr amserlen
- amserlennu’r gweithrediadau logisteg fel bod y gadwyn gyflenwi’n parhau i weithredu’n effeithiol
- cofnodi amserlennu yn y system wybodaeth a chofnodi berthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol gan ddilyn unrhyw reoliadau diogeledd data a gwybodaeth perthnasol yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
- monitro darpariaeth gweithrediadau logisteg yn erbyn yr amserlen
- nodi unrhyw broblemau gyda’r amserlen, a chymryd y camau gofynnol i’w datrys
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud ag amserlennu gweithrediadau logisteg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y dulliau, offer, technoleg a’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol a ddefnyddir ar gyfer amserlennu gweithrediadau logisteg
- yr arferion gwaith, y gweithdrefnau gweithredu, y canllawiau a’r codau ymarfer ar gyfer gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- sut i gadarnhau a chytuno ar ofynion cwsmeriaid ar gyfer gweithrediadau logisteg
- y ffactorau y mae angen eu hystyried wrth amserlennu gweithrediadau logisteg
- y gweithgareddau y mae angen eu cynnal ar gyfer amserlennu a rheoli data
- y problemau a allai ddigwydd gydag amserlenni a bodloni gofynion cwsmeriaid
- y cyrff rheoliadol perthnasol ar gyfer gweithrediadau logisteg a’u gofynion cydymffurfio
- rolau, cyfrifoldebau a systemau rheoli sy’n berthnasol i weithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- y systemau gwybodaeth a chofnodi, systemau monitro a’r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion cyfreithiol, amgylcheddol, diogelwch a gweithredu sy’n ymwneud ag amserlennu gweithrediadau logisteg
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amserlen: cynllun o’r gweithgareddau neu’r tasgau
Problemau gyda’r amserlen: argaeledd stoc, argaeledd trafnidiaeth, oedi oherwydd y llwybr, amseru afrealistig, prinder gwybodaeth, dogfennau coll
Adnoddau: systemau rheoli stoc, systemau rheoli warws, dogfennau, offer cynllunio llwybr, meddalwedd gyfrifiadurol, cyfarpar monitro cerbydau
Cwsmeriaid: mewnol, allanol
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gweithio, rheoliadau trafnidiaeth; arferion gweithio, gweithdrefnau gweithredu, canllawiau diwydiant
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLLO36
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
amserlen; cynllun; logisteg; gweithrediadau; cwsmeriaid; digwyddiadau byw; arddangosfeydd