Nodi cydymffurfio a diffyg cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol ar gyfer gweithrediadau logisteg
URN: SFLLO35
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Logisteg
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â nodi cydymffurfio a diffyg cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol ar gyfer gweithrediadau logisteg. Mae hyn yn cynnwys cael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle i fonitro cydymffurfio yn eich sefydliad. Mae’n cynnwys gweithredu’n gyfrifol mewn perthynas â chydweithwyr, cwsmeriaid, buddsoddwyr a’r cymunedau lle’r ydych yn gweithio. Mae’n cynnwys gweithio o fewn rheoliadau penodol a fframweithiau moesegol ar gyfer eich diwydiant.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rheiny sydd â chyfrifoldeb dros reoli cydymffurfio yn eich gweithrediad logisteg. Gallech fod yn gweithio, er enghraifft, ym maes warws a storio, trafnidiaeth, neu anfon cludiant ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gwybodaeth gan ffynonellau perthnasol am bolisïau a gweithdrefnau sefydliadol a gweithredol presennol ar gyfer gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol ar gyfer gweithrediadau logisteg
- darparu’r wybodaeth berthnasol i staff a chadarnhau bod ganddynt ddealltwriaeth o’r polisïau a’r gweithdrefnau ar gyfer gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol, a phwysigrwydd eu rhoi ar waith
- monitro’r ffordd y mae polisïau a gweithdrefnau’n cael eu rhoi ar waith a rhoi cymorth i staff sy’n eu gweithredu
- cynorthwyo staff i gael trafodaethau agored a lleisio eu pryderon am fodloni, neu beidio â bodloni y polisïau a’r gweithdrefnau ar gyfer gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol
- rhoi cyfleoedd i staff rannu gwybodaeth a gwybodaeth am gydymffurfio, o fewn cyfyngiadau cyfrinachedd a’r gofynion ar gyfer diogelu data
- nodi ac adolygu risgiau posibl o ran cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol ar gyfer gweithrediadau logisteg, gan ddefnyddio gweithdrefnau rheoli risg sefydliadol
- nodi rhesymau dros beidio â bodloni gofynion ac addasu polisïau a gweithdrefnau i leihau’r tebygolrwydd o fethiannau yn y dyfodol
- darparu adroddiadau llawn ynghylch unrhyw ddiffyg cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau ar gyfer gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol ar gyfer gweithrediadau logisteg, i’r rhanddeiliaid perthnasol
- creu amser i gefnogi a rhoi adborth i staff i’w helpu i wella eu perfformiad yn bodloni gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol ar gyfer gweithrediadau logisteg
- nodi gofynion cydymffurfio rhanddeiliaid a rheoli’r berthynas gyda nhw
- cofnodi unrhyw ddiffyg cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau ar gyfer gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol ar gyfer gweithrediadau logisteg, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol ac yn dilyn unrhyw reoliadau diogelu data a gwybodaeth berthnasol yn ymwneud â staff, cwsmeriaid a phartneriaid dosbarthu
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y prosesau sefydliadol perthnasol ar gyfer monitro datblygiadau cenedlaethol a rhyngwladol mewn deddfwriaeth a rheoliadau sy’n effeithio ar weithrediadau logisteg
- y prosesau sefydliadol perthnasol ar gyfer monitro gofynion moesegol a chymdeithasol sydd yn dod i’r amlwg ar gyfer gweithrediadau logisteg
- pwysigrwydd cael ymagwedd sydd yn seiliedig ar foeseg a gwerthoedd tuag at lywodraethu corfforaethol, a sut mae rhoi hyn ar waith yn ymarferol
- diwylliant a gwerthoedd eich sefydliad a’r effaith y maent yn ei gael ar lywodraethu corfforaethol
- y polisïau a’r gweithdrefnau sefydliadol a gweithredol perthnasol ar gyfer cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol ar gyfer gweithrediadau logisteg
- ymagwedd y sefydliad tuag at agweddau cymdeithasol presennol a rhai sydd yn dod i’r amlwg tuag at rheolaeth ac ymarfer arwain, a phwysigrwydd bod yn sensitif i’r rhain
- y polisïau a’r gweithdrefnau sefydliadol a gweithredol sydd yn cadarnhau bod staff yn bodloni’r gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol
- y ffyrdd gwahanol lle gallai staff beidio â bodloni’r gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol, sut i nodi’r rhain a’r risgiau y maent yn eu cyflwyno i ddiffyg cydymffurfio
- y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol i’w dilyn pan fydd diffyg cyfymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol yn digwydd
- y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer ymdrin â sefyllfaoedd a staff nad ydynt yn bodloni’r gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol, yn cynnwys gweithdrefnau adrodd
- y prosesau ar gyfer adolygu a chynnal y polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol ar gyfer cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadol, moesegol a chymdeithasol, i gadarnhau eu bod yn parhau i fod yn effeithiol ac yn gynaliadwy
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cadw cofnodion
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Polisïau a gweithdrefnau gweithredol e.e. Dangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI), safonau diwydiant, gofynion cyfreithiol, trwyddedau, FOR, safonau amgylcheddol, rheoli perygl a risg, gwelliant parhaus, rheoli rheolaeth effeithiol barhaus
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLLO35
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithrediadau a chynnal a chadw trafnidiaeth, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
cydymffurfio; cyfreithiol; rheoliadol; moesegol; cymdeithasol; logisteg