Prosesu, cwblhau a chyflwyno dogfennau ar gyfer nwyddau i’r Tollau
URN: SFLITLO9
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesu, cwblhau a chyflwyno dogfennau ar gyfer nwyddau i’r tollau. Bydd angen i chi gadarnhau bod y dogfennau’n cydymffurfio â gofynion yr awdurdodau rheoliadol perthnasol, p’un ai yn y DU neu’n rhyngwladol, gan gymryd camau priodol i ddatrys unrhyw faterion.
Bydd angen i chi fod yn gyfarwydd â’r telerau ac amodau perthnasol yn ymwneud â chwblhau a chadw dogfennau tollau wrth gludo nwyddau yn y DU neu’n rhyngwladol.
Gellir cymhwyso’r safon hon i unrhyw ddull trafnidiaeth neu gyfuniad o ddulliau, p’un ai ar y ffordd, rheilffordd, awyr, môr neu ddyfrffordd.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rheiny sy’n gyfrifol am brosesu a chwblhau dogfennau tollau mewn gweithrediadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cael yr holl fanylion perthnasol o’r nwyddau sydd yn cael eu cludo a sicrhau bod y manylion yn gywir, gan ddatrys unrhyw faterion yn eich awdurdod
- Dewis y dogfennau tollau cywir a’r dulliau talu ar gyfer y wlad lle mae’r nwyddau’n cael eu trosglwyddo iddi neu drwyddi
- Cadarnhau bod y dogfennau tollau yn cynnwys holl fanylion perthnasol y nwyddau sydd yn cael eu hallforio neu eu mewnforio, a datrys unrhyw fanylion sydd yn aneglur neu’n ymddangos fel pe baent yn gwrth-ddweud ei gilydd
- Cadarnhau bod y gweithdrefnau tollau a’r dogfennau tollau perthnasol yn cael eu defnyddio ar gyfer y wlad y mae’r nwyddau’n cael eu cludo iddi neu drwyddi
- Prosesu a sicrhau bod yr holl adrannau o’r dogfennau tollau yn gyflawn ac nad oes unrhyw wybodaeth sydd ei hangen yn cael ei hepgor
- Darparu’r holl wybodaeth sydd yn ofynnol gan yr awdurdodau tollau
- Cadarnhau bod gwybodaeth yn cael ei chyflwyno mewn ffordd gywir a dealladwy
- Cadarnhau bod y dogfennau tollau yn cael eu ffeilio a’u cadw’n briodol, yn unol â gofynion statudol a rheoliadol
- Cyflwyno’r dogfennau tollau i’r rhanddeiliad perthnasol ar yr adeg briodol, yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt
- Nodi unrhyw ddigwyddiadau neu broblemau nas rhagwelwyd gyda’r dogfennau, a chymryd y camau priodol
- Adrodd am unrhyw weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth perthnasol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- Cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, rheoliadau, safonau a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol, yn cynnwys ymarfer moesegol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y dogfennau sydd eu hangen gan awdurdodau tollau yn y DU ac yn rhyngwladol
- Y dogfennau tollau sydd eu hangen gan wledydd wrth gludo neu yn y gyrchfan
- Y dogfennau tollau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol sydd eu hangen ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau, trafnidiaeth, dulliau a llwybrau cludo
- Y math o wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer mathau gwahanol o ddogfennau tollau ar gyfer nwyddau
- Y dogfennau tollau cenedlaethol a rhyngwladol sydd yn orfodol
- Sut i gwblhau a phrosesu’r dogfennau tollau ar gyfer y nwyddau sydd yn cael eu cludo, a chanlyniadau peidio â gwneud hynny
- Pwysigrwydd cyflwyno’r dogfennau tollau priodol ar yr adeg iawn i’r person iawn, a chanlyniadau peidio â gwneud hynny
- Rôl sefydliadau ac asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol gwahanol yn symud nwyddau
- Y systemau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan gwsmeriaid, cyflenwyr, cyrff rheoliadol swyddogol a rhanddeiliaid eraill
- Y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau sy’n berthnasol i iechyd, diogelwch a’ch maes cyfrifoldeb eich hun
- Y ddeddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol a rheoliadau ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau, y cymysgedd o nwyddau, dulliau trafnidiaeth a masnach ryngwladol
- Y cyrff rheoliadol cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol a’u gofynion cydymffurfio
- Y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan y sefydliad
- Yr arferion gweithio, gweithdrefnau gweithredu, canllawiau a’r codau ymarfer, yn cynnwys ymarfer moesegol
- Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr yn y gadwyn gyflenwi wrth symud nwyddau
- Y canlyniadau ar gyfer y cwsmer a’ch cwmni eich hun o wallau mewn dogfennau
Cwmpas/ystod
Awdurdod Tollau
• Cenedlaethol
• Rhyngwladol
Manylion y Nwyddau
• Manylion sy’n ofynnol ar gyfer tollau
• Gofynion cwsmeriaid
• Gofynion amgylcheddol
• Gofynion gwahanu
• Gofynion pacio
Dull trafnidiaeth
• Llongau – llwythi sych, llwythi hylif, unedau cludo cargo a rholio ymlaen/rholio i ffwrdd.
• Awyr
• Môr
• Rheilffordd
• Ffordd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dogfennau tollau
Dogfennau sydd eu hangen gan awdurdodau tollau yn y DU a thramor
Incoterms
Termau Masnachol Rhyngwladol.
Mae rheolau Incoterms yn esbonio set o 3 term masnach sydd yn adlewyrchu ymarfer o un busnes i’r llall ar gyfer gwerthu nwyddau. Mae rheolau Incoterms yn disgrifio’r tasgau, y costau a’r rheolau sydd yn gysylltiedig â dosbarthu nwyddau o werthwyr i brynwyr.
Problemau gyda dogfennau
Gwallau yn y wybodaeth am y nwyddau neu yn cwblhau dogfennau tollau fydd yn arwain at wrthod y dogfennau
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLITLO9
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Proffesiynol, Mentrau mân-werthu a masnachol, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Rheolwyr Dosbarthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Mewnforio, Storio a Manwerthu, Masnachau Cerbydau
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
tollau; dogfennau; datganiad