Prosesu, cwblhau a chyflwyno dogfennau trafnidiaeth ar gyfer nwyddau
URN: SFLITLO8
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Gweithrediadau Masnach a Logisteg Rhyngwladol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â sicrhau bod dogfennau trafnidiaeth sydd yn gysylltiedig â chludo nwyddau’n cael eu prosesu’n gywir, eu cwblhau a’u cyflwyno’n brydlon i’r rhanddeiliad priodol. Bydd angen i chi sicrhau bod y dogfennau’n cydymffurfio â gofynion perthnasol yr awdurdodau rheoliadol, p’un ai yn y DU, yr UE neu’n rhyngwladol, gan gymryd camau priodol i ddatrys unrhyw faterion.
Bydd angen i chi fod yn gyfarwydd â’r telerau ac amodau perthnasol yn ymwneud â chwblhau a chadw dogfennau wrth gludo nwyddau yn y DU, yr UE neu’n rhyngwladol.
Gellir cymhwyso’r safon hon i unrhyw ddull trafnidiaeth neu gyfuniad o ddulliau, p’un ai ar y ffordd, rheilffordd, awyr, môr neu ddyfrffordd.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r rheiny sy’n gyfrifol am brosesu a chwblhau dogfennau trafnidiaeth yn gywir mewn gweithrediadau logisteg.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- Cael holl fanylion perthnasol y nwyddau sydd yn cael eu cludo, a sicrhau bod y manylion yn gywir, gan ddatrys unrhyw faterion, yn eich awdurdod
- Dewis y dogfennau trafnidiaeth cywir ar gyfer y nwyddau a’r dull trafnidiaeth sydd yn cael ei ddefnyddio
- Prosesu’r dogfennau trafnidiaeth cywir ar gyfer y nwyddau a’r dulliau trafnidiaeth sydd yn cael eu defnyddio
- Cwblhau’r holl adrannau perthnasol o’r dogfennau trafnidiaeth gan sicrhau bod yr holl wybodaeth yn gywir ac yn gyflawn
- Darparu trawsgrifiadau cryno o’r nwyddau yn unol â’r gofynion rheoliadol a rhanddeiliaid perthnasol
- Cadarnhau bod y dogfennau trafnidiaeth yn cynnwys holl fanylion perthnasol y nwyddau sydd yn cael eu cludo a datrys unrhyw fanylion sydd yn aneglur neu’n ymddangos eu bod yn gwrth-ddweud ei gilydd
- Cyflwyno’r dogfennau trafnidiaeth ar gyfer y nwyddau i’r rhanddeiliad perthnasol ar yr adeg briodol, yn unol â gweithdrefnau y cytunwyd arnynt
- Ymgorffori termau masnach sydd yn dderbyniol ar hyn o bryd i’r sefydliadau sydd yn gwneud cais am y wybodaeth am y trafnidiaeth
- Cadarnhau bod y dogfennau trafnidiaeth yn cael eu ffeilio a’u cadw’n briodol, yn unol â’r gofynion statudol a rheoliadol perthnasol
- Nodi unrhyw broblemau gyda’r dogfennau trafnidiaeth, a chymryd y camau priodol i ymdrin â nhw
- Adrodd ar weithgareddau gwaith a’u cofnodi yn y systemau gwybodaeth priodol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a rheoliadol perthnasol
- Cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, rheoliadau, safonau a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol, yn cynnwys ymarfer moesegol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- Y dogfennau trafnidiaeth cenedlaethol a rhyngwladol sydd eu hangen ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau, dulliau trafnidiaeth, a llwybrau cludo, neu yn y gyrchfan derfynol
- Y lefel a’r math o wybodaeth sydd yn ofynnol ar gyfer mathau gwahanol o ddogfennau trafnidiaeth
- Y termau masnach a’r safonau rhyngwladol ar gyfer cludo nwyddau, yswiriant a chostau (Incoterms)
- Sut i gwblhau a phrosesu’r dogfennau trafnidiaeth ar gyfer y nwyddau sydd yn cael eu cludo a chanlyniadau peidio â gwneud hynny
- Rôl sefydliadau ac asiantaethau cenedlaethol a rhyngwladol gwahanol yn symud nwyddau
- Pwysigrwydd cyflwyno’r dogfennau trafnidiaeth priodol ar yr adeg briodol i’r person iawn, a chanlyniadau peidio â gwneud hynny
- Y systemau a’r gweithdrefnau a ddefnyddir gan gwsmeriaid, cyflenwyr, cyrff rheoliadol a rhanddeiliaid eraill
- Y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n berthnasol i iechyd, diogelwch a’ch maes cyfrifoldeb eich hun
- Y gofynion deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol ar gyfer storio a chadw dogfennau trafnidiaeth yn ymwneud â masnach ryngwladol
- Y ddeddfwriaeth a’r rheoliadau cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau, dulliau trafnidiaeth a masnach ryngwladol
- Y cyrff rheoliadol cenedlaethol a rhyngwladol a’u gofynion cydymffurfio
- Y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau gwybodaeth a ddefnyddir gan y sefydliad
- Yr arferion gwaith, gweithdrefnau gweithredu, canllawiau a chodau ymarfer, yn cynnwys ymarfer moesegol, a ddefnyddir gan eich sefydliad
- Rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr yn y gadwyn gyflenwi wrth symud nwyddau
- Y canlyniadau i’r cwsmer a gwallau eich cwmni eich hun yn cludo dogfennau
Cwmpas/ystod
Manylion y nwyddau
• Y manylion sydd eu hangen ar gyfer tollau
• Gofynion y cwsmer
• Gofynion amgylcheddol
• Gofynion gwahanu
• Gofynion pacio
Dull trafnidiaeth
• Llongau – llwythi sych, llwythi hylif, unedau cludo cargo a rholio ymlaen/rholio i ffwrdd.
• Awyr
• Môr
• Rheilffordd
• Ffordd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Incoterms *
Termau Masnachol Rhyngwladol. Mae rheolau Incoterms yn esbonio set o 3 term masnach sydd yn adlewyrchu ymarfer o un busnes i’r llall ar gyfer gwerthu nwyddau. Mae rheolau Incoterms yn disgrifio’r tasgau, y costau a’r rheolau sydd yn gysylltiedig â dosbarthu nwyddau o werthwyr i brynwyr.
Dogfennau trafnidiaeth
Dogfennau am y nwyddau, eu cyrchfan a’r dull trafnidiaeth sy’n ofynnol, neu allai fod eu hangen, ar gyfer eu harchwilio gan awdurdodau rheoliadau trafnidiaeth yn y DU a thramor.
Problemau gyda dogfennau*
Gwallau yn y wybodaeth am y nwyddau, eu cyrchfan, y dull trafnidiaeth neu yn cwblhau dogfennau trafnidiaeth fydd yn arwain at wrthod y dogfennau.
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLITLO8
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwr, Mentrau mân-werthu a masnachol, Gyrwyr a Gweithredwyr Trafnidiaeth, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Rheolwyr Dosbarthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Storio a Manwerthu, Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol, Rheolwyr ac Uwch Swyddogion Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
trafnidiaeth; dogfennau; symudiadau; nwyddau; deunyddiau